Y cyhoedd i ystyried naw dewis ar wella rhan o'r A55

Golygfa o'r awyr o'r ffordd rhwng Llanfairfechan a Phenmaenmawr Image copyright Google
Image caption Mae'r cynlluniau yn cynnwys naw dewis

Mae'r cynlluniau i wella rhan o'r A55 yn Sir Conwy wedi cael eu rhoi ger bron y cyhoedd.

Mae disgwyl i bobl ystyried naw dewis ar ran o'r ffordd rhwng Llanfairfechan a Phenmaenmawr.

Yn eu plith mae cael gwared â dau gylchfan ar gyffyrdd 15 ac 16.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates bydd y newidiadau yn sicrhau "gwell llif traffig a chwblhau'r daith mewn amser dibynadwy."

Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 24 Awst.

Straeon perthnasol