Medal aur i Jade Jones yn Grand Prix Taekwondo y Byd

Jade Jones
Image caption Llwyddodd Jade Jones i drechu Marta Calvo Gomez o 14-12 yn rownd derfynol 57kg.

Mae'r bencampwraig Taekwondo o Lannau Dyfrdwy, Jade Jones wedi ennill medal aur yn Grand Prix Taekwondo y Byd yn Rhufain.

Llwyddodd Jones i drechu Marta Calvo Gomez o 14-12 yn y rownd derfynol 57kg.

Wedi'r ornest dywedodd Jones: "Pan rydych yn ennill o drwch blewyn mae'n gwneud i'r fuddugoliaeth deimlo llawer gwell.

"Dwi wirioneddol yn mwynhau a dwi'n credu bod hynny'n amlwg," meddai.

Daw llwyddiant Jones ar ôl i'r Gymraes, Lauren Williams ennill y fedal efydd ddydd Gwener yn y categori 67kg.

Yn ddiweddarach daeth cadarnhad fod Williams wedi rhwygo ei llinyn y gar yn ystod yr ornest.

Pynciau Cysylltiedig