Plentyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg

heddlu

Mae plentyn wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad â char ym Mro Morgannwg brynhawn Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn Y Bont-faen am tua 17:20.

Mae'r plentyn bellach wedi cael eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.