Rhybudd am beryblon gemau cyfrifiadurol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Rhybudd am beryglon gemau cyfrifiadurol

2 Mehefin 2018 Diweddarwyd 17:14 BST

Mae mam o Sir Conwy yn rhybuddio am y peryglon o chwarae gemau cyfrifiadurol ar y we gyda phobl ddieithr.

Roedd mab Kay Murphy o Gerrigydrudion wedi bod yn chwarae gêm o'r enw 'Fortnite', cyn i rywun geisio dwyn arian oddi arno.

Mae Fortnite yn gêm gyfrifiadurol newydd sy'n hynod boblogaidd ymysg pobl ifanc.

Dyma adroddiad Llyr Edwards.