Pryder am farwolaethau beicwyr modur
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder am farwolaethau beicwyr modur

2 Mehefin 2018 Diweddarwyd 09:18 BST

Mae mwy o feicwyr modur wedi marw ar ffyrdd gogledd Cymru eleni na thrwy gydol 2017.

Bu farw'r wythfed beiciwr mewn gwrthdrawiad ym Mae Trearddur, Ynys Môn, fore Mercher.

Yn 2017, bu farw saith o feicwyr modur ar ffyrdd y gogledd, a'r cyfanswm oedd wyth ar gyfer 2016 i gyd.

Yn ôl Sarjant Trystan Bevan o Heddlu'r Gogledd, mae'r nifer hyd at ddiwedd Mai eleni yn achosi "pryder".