Salwch tramor: Cymro'n 'diolch o galon'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymro fu'n wael yn diolch am arian i'w gludo o Wlad Thai

1 Mehefin 2018 Diweddarwyd 07:27 BST

Wedi cyfnod yn ddifrifol wael mewn ysbyty yng Ngwlad Thai, mae Ifor Glyn o Abertawe yn diolch o galon i bobl am godi bron i £10,000 i'w hedfan adre i gael triniaeth.

Cafodd Mr Glyn pneumonia tra roedd ar ei wyliau yng Ngwlad Thai ym mis Ionawr.

Lansiwyd ymgyrch i ddod ag ef yn ôl i Brydain ar ol i'w gwmni yswiriant wrthod talu am ei driniaeth.

Llwyddodd teulu a ffrindiau i godi £9,700 ar ôl sefydlu tudalen apêl, ond yn bellach mae ei gwmni yswiriant wedi cytuno i dalu ei gostau.