Grŵp o wleidyddion yn galw am ail bleidlais Brexit

brexit

Mae dros 30 o wleidyddion Cymreig yn galw am ail bleidlais gyhoeddus ar y fargen Brexit terfynol y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio taro gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Mewn llythyr agored, mae grŵp o ASau, ACau ac arweinwyr cyngor yn dweud y bydd y fargen derfynol "yn rhy fawr" i gael ei adael i bleidlais yn Senedd San Steffan.

Aelodau Llafur yw'r rhan fwyaf sydd wedi llofnodi'r llythyr, gan roi fwy o bwysau ar arweinyddiaeth y blaid i newid polisi ar Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ail refferendwm yn gyson.

'Lles i bobl Cymru?'

Mae swyddogion a gweinidogion San Steffan wrthi'n trafod Brexit gyda swyddogion ym Mrwsel, gyda'r DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

Yn unol â'r amserlen o ddwy flynedd ar gyfer y sgyrsiau Brexit, mae'r DU a'r undeb yn bwriadu dod i gytundeb yn yr hydref ac fe fydd ASau wedyn yn cael bwrw pleidlais arno.

Mewn llythyr agored a gydlynwyd gan y grŵp ymgyrchu Cymru Dros Ewrop, mae 31 o wleidyddion o Gymru yn dweud bod nhw'n "derbyn" bod Cymru a'r DU wedi pleidleisio dros adael yr UE yn 2016.

Image caption Mae ysgrifennydd llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, Alun Davies wedi arwyddo'r llythyr

Ond mae'r llythyr yn dweud: "Y ddadl nawr yw beth ydyn ni'n meddwl o'r cytundeb Brexit y mae'r prif weinidog yn ei chyrraedd.

"A fydd y fargen o les i bobl Cymru a gweddill y DU? A fydd e'n sicrhau dyfodol da i'n pobl ifanc ac yn caniatáu iddynt ffynnu? A fydd e'n helpu gwarchod a chynyddu nifer y swyddi sy'n talu'n dda y mae eu hangen ar Gymru?

"Rydyn ni'n dod at ein gilydd, ar sail drawsbleidiol, i siarad dros bobl Cymru ac i alw, ar eu rhan nhw, ac ar ran bawb arall yn y DU, am bleidlais i'r bobl ar y fargen Brexit terfynol.

"Y fargen derfynol ar Brexit fydd y fargen go iawn a bydd yn rhy fawr i'w hanwybyddu. Fe fydd yn rhy fawr hefyd i gael ei adael i ASau yn y Senedd. Fe fydd rhaid cael pleidlais i'r bobl nawr."

Pwy sydd wedi llofnodi'r llythyr?

Aelodau Seneddol

  • Ann Clwyd AS, Llafur, Cwm Cynon
  • Anna McMorrin AS, Llafur, Gogledd Caerdydd
  • Chris Bryant AS, Llafur, Rhondda
  • Geraint Davies AS, Llafur, Gorllewin Abertawe
  • Jo Stevens AS, Llafur, Caerdydd Canolog
  • Jonathan Edwards AS, Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Liz Saville-Roberts AS, Plaid Cymru, Dwyfor Meirionydd
  • Owen Smith AS, Llafur, Pontypridd
  • Paul Flynn AS, Llafur, Gorllewin Casnewydd
  • Stephen Doughty AS, Llafur, De Caerdydd a Phenarth
  • Susan Elan-Jones AS, Llafur, De Clwyd
  • Tonia Antoniazzi AS, Llafur, Gwyr

Aelodau'r Cynulliad

  • Alun Davies AC, Llafur, Blaenau Gwent
  • Ann Jones AC, Llafur, Dyffryn Clwyd
  • David Rees AC, Llafur, Aberafan
  • Joyce Watson AC, Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Kirsty Williams AC, Democratiaid Rhyddfrydol, Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Lee Waters AC, Llafur, Llanelli
  • Lynne Neagle AC, Llafur, Torfaen
  • Mike Hedges AC, Llafur, Dwyrain Abertawe

Aelodau o'r Senedd Ewropeaidd

  • Derek Vaughan, Llafur
  • Jill Evans, Plaid Cymru

Arweinwyr Cyngor

  • Anthony Hunt, Llafur, Cyngor Torfaen
  • Andrew Morgan, Llafur, Cyngor Rhondda Cynon Taf
  • David Poole, Llafur, Cyngor Caerffili
  • Debbie Wilcox, Llafur, Cyngor Casnewydd
  • Ellen ap Gwynn, Plaid Cymru, Cyngor Ceredigion
  • Huw Thomas, Llafur, Cyngor Caerdydd
  • Rob Jones, Llafur, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • Rob Stewart, Llafur, Cyngor Abertawe

Mae'r llythyr wedi cael ei arwyddo gan wyth arweinydd cyngor, dau o'r pedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd o Gymru, a 12 o'r 40 o ASau Cymreig, gan gynnwys Owen Smith, gafodd ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon yr wrthblaid gan arweinydd Llafur Jeremy Corbyn am fynd yn groes i bolisi'r blaid gan alw am ail refferendwm.

Mae ASau Llafur Cymru, Anna McMorrin a Tonia Antoniazzi wedi llofnodi'r llythyr er bod y ddwy wedi'u penodi'n ysgrifenyddion preifat seneddol yr wrthblaid ac mae disgwyl iddynt lynu at bolisi'r blaid.

Cafodd AS Llafur dros Aberafan, Stephen Kinnock ei ofyn i arwyddo'r llythyr ond fe wrthododd.

"Dwi wastad wedi derbyn y dylid parchu canlyniad y refferendwm, felly ni ddylid gofyn a ddylai'r DU adael yr EU, ond sut y dylid gwneud hynny," meddai Mr Kinnock.

"Rydw i wedi bod yn ymgyrchu'n gadarn dros 18 mis ar gyfer Brexit wedi'i seilio ar fod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

"Pe byddwn i nawr yn dechrau cefnogi ymgyrch sy'n ceisio gwyrdroi Brexit cyn mis Mawrth 2019 yna fe fyddai'n tanseilio'r dadleuon sydd gennai dros yr AEE."

Image caption Fe wnaeth AS Aberafan, Stephen Kinnock wrthod arwyddo'r llythyr

Mae naw AC hefyd wedi arwyddo'r llythyr, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ac Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Alun Davies.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud yn gyson nad yw am ail-redeg ymgyrch y refferendwm a dylai Cymru a'r DU barchu canlyniad y bleidlais gyhoeddus.

'Cwestiynau am allu Jones'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod Mr Jones wedi colli pob awdurdod ers cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel Prif Weinidog Cymru yn ddiweddarach eleni, gyda dau o weinidogion wedi mynd "yn erbyn polisi swyddogol Llywodraeth Cymru".

"Fe wnaeth Jeremy Corbyn ddiswyddo Owen Smith am lawer llai, ac mae cwestiynau difrifol nawr am allu Carwyn Jones i arwain ei blaid a'i lywodraeth wrth i ni nesáu at gyfnod allweddol yn nhrafodaethau Brexit," meddai.

Mewn ymateb i gais i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar ail refferendwm, fe ddywedodd llefarydd: "Blaenoriaeth Prif Weinidog Cymru yw sicrhau'r fargen orau bosibl i bobl Cymru a'r DU."

Mewn darlith ddiweddar ar gyfer Cymru Dros Ewrop dywedodd arweinydd Llywodraeth Cymru ar Brexit, Mark Drakeford nad nawr oedd yr amser i ddiffinio'r ffordd y bydd ail gwestiwn ar Brexit yn cael ei ofyn - fe allai hynny olygu ail refferendwm, y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin neu etholiad cyffredinol, meddai.