Essex yn rhoi cweir i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

cooke Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg ar ddiwrnod gwael i'r tîm

Fe gafodd Morgannwg gweir gan Essex yn y Cwpan Undydd ddydd Mercher, gan golli o naw wiced.

Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd sgôr o union 200 oddi ar 48.3 pelawd, a doedd y cyfanswm yna byth yn edrych fel pe byddai'n ddigon.

Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 59 rhediad ar ei ben-blwydd, ond 43 gan Andrew Salter oedd yr unig gyfraniad arall o bwys.

Wrth ymateb fe lwyddodd Essex i gyrraedd y nod yn hawdd, gyda Cooke a Salter yn cyfuno i gipio'r unig wiced i ddisgyn, sef Adam Wheater (88).

Cyrhaeddwyd y nod gyda Varun Chopra yn 98 heb fod allan a Tom Westley'n sgorio 11 oedd yn cynnwys un chwech ac un pedwar.

Mae Morgannwg bellach wedi colli pob un o'u pum gêm yn y gystadleuaeth gyda'r record waethaf o'r holl siroedd.

Pynciau Cysylltiedig