Gwrthdrawiad Ynys Môn: Gyrrwr beic modur wedi marw

heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mae Trearddur fore Mercher.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 11:30 i wrthdrawiad rhwng beic modur a char Ford Focus.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Mae'r ffordd yn parhau ar gau wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Yn anffodus rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ac mae ein meddyliau i gyd gyda theulu'r dyn ar hyn o bryd."

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig