Dynes wedi marw wedi gwrthdrawiad A4232 Caerdydd

Heddlu

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Bu farw'r ddynes, oedd yn gyrru car, wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar a dwy lori ar yr A4232 ger Croes Cwrlwys.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 27 oed oedd yn gyrru lori wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae yn y ddalfa.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r digwyddiad am tua 12:00, er mwyn i ambiwlans awyr allu glanio.

Mae'r lonydd i gyfeiriad y de yn parhau ynghau wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig