Brexit: 'Angen rhoi gwlad cyn uchelgais bersonol'

Andrew RT Davies

Mae angen i'r Ceidwadwyr flaenoriaethu'r hyn sydd orau i'r wlad dros "uchelgais bersonol" o ran trafodaethau Brexit, yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Andrew RT Davies nad oedd yn fuddiol i gyd-aelodau ei blaid "redeg i'r camerâu" a rhoi sylwebaeth ar bob agwedd o'r sgyrsiau.

Mae'r Torïaid yn San Steffan wedi'u hollti ar drefniadau tollau rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit, gyda'r Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson yn disgrifio un o'r cynigion fel "gwallgof".

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud y bydd y DU yn gadael undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd.

Mae gwledydd sy'n rhan o'r undeb tollau yn cytuno i godi'r un lefel o dreth ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio o wledydd y tu allan i'r undeb, ond nid yw'n caniatáu i'r aelodau gyrraedd cytundeb masnach ryngwladol ei hun - un o brif ddymuniadau'r prif weinidog.

Er mwyn osgoi undeb tollau, mae dau opsiwn amgen ar gyfer trefniadau tollau yn cael eu hystyried gan Downing Street:

  1. "Partneriaeth tollau", fyddai'n golygu bod y DU yn casglu trethi a osodwyd gan undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r wlad;
  2. Cynnig sy'n cael ei alw'n "maximum facilitation", fyddai'n dibynnu ar dechnoleg a phroses datblygedig o wirio nwyddau o flaen llaw i leihau gwiriadau tollau yn hytrach na chael gwared arnynt yn llwyr.

Osgoi 'ffin galed'

Fel rhan o'r cyfnod pontio sydd wedi cael ei gytuno - rhwng y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019 tan 31 Rhagfyr 2020 - bydd y DU yn aros yn unol â'r undeb tollau er mwyn hwyluso'r llwybr tuag at y berthynas newydd.

Er mwyn osgoi 'ffin galed' rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, mae cabinet Mrs May wedi cytuno ar bolisi yswiriant i gadw'r DU yn unol ag undebau tollau'r UE ar ôl 2020.

Mae wedi cael ei gytuno arno am nad oes penderfyniad wedi'i wneud ar ba un o'r ddau ddewis amgen i'w mabwysiadu.

Mae Mr Johnson wedi disgrifio'r "bartneriaeth tollau", sy'n cael ei ystyried fel hoff opsiwn y prif weinidog, yn "wallgof", tra bod yr Ysgrifennydd Amgylchedd Michael Gove wedi codi amheuaeth ynghylch y cynllun.

Image caption Mae Boris Johnson wedi disgrifio'r "bartneriaeth tollau" fel cynllun "gwallgof"

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mr Davies: "Mae'n bryd i'r blaid dorchi llewys a gweithio ar y cyd gyda'r prif weinidog a chydweithwyr yn y llywodraeth er mwyn gwireddu'r bleidlais 'nôl yn 2016.

"Mae'n rhaid i ni roi'r gorau i gael sylwebaeth ddi-dor yn y cyfryngau, lle mae gwleidyddion yn rhedeg i gamerâu i gynnig eu barn. Mae'r rhain yn drafodaethau manwl iawn a sensitif.

"Mae angen i wleidyddion feddwl a pharhau i beidio â rhoi eu huchelgais personol o flaen yr hyn sydd orau i'r wlad.

"Ein huchelgais ar gyfer y wlad yw cael cytundeb byd-eang - Prydain sy'n edrych tuag at y byd sy'n cael ei gyflwyno gan brif weinidog sydd wedi dangos ei chryfder."

'Ail gymryd rheolaeth'

Mewn ymateb i bryderon swyddogion yr UE na fyddai naill opsiwn tollau'r llywodraeth yn gweithio, fe ddywedodd Mr Davies: "Maen nhw ar ochr arall y trafodaethau, felly mae'n rhaid iddyn nhw sefyll yno a mynd mor galed ag y maen nhw'n gallu."

Heb gefnogi'r naill neu'r llall o'r cynigion yn benodol, dywedodd: "Yn y pen draw mae'n rhaid i ni ail-gymryd rheolaeth o'n sofraniaeth, ein ffiniau a'n harian."

Image caption Mae'r sefyllfa'n "wirion bost yn ôl llefarydd Brexit y Blaid Lafur, Keir Starmer

Yn dilyn penderfyniad Llafur i gefnogi undeb tollau gyda'r UE, mae'r prif weinidog yn wynebu colled posibl yn Nhŷ'r Cyffredin dros yr wythnosau nesaf os bydd digon o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr yn ymuno â Llafur i bleidleisio yn erbyn ei chynllun i beidio â bod yn rhan o undeb tollau yn y dyfodol.

Wrth ymweld â fferm wartheg a defaid ym Mro Morgannwg, fe ddywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar Brexit, Keir Starmer: "Rydym mewn sefyllfa wirion bost nawr lle mae'r llywodraeth yn ymladd dros ddau opsiwn, ac nid yw'r naill na'r llall yn mynd i weithio, nid yw'r un ohonynt yn dderbyniol i'r UE, a does yna ddim digon o gefnogaeth i'r naill na'r llall yn y Senedd [yn San Steffan].

"Mae angen sicrwydd arnom, felly fe ddylen ni aros mewn undeb tollau gyda'r UE yn yr hirdymor - byddai hynny'n rhoi'r sicrwydd y mae pobl yn chwilio amdano ar draws y wlad."

Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cefnogi aelodaeth barhaus o undebau tollau, yn ogystal â mynediad llawn i farchnad sengl yr UE.