Ymgais i atal cynllun ffordd newydd i Faes Awyr Caerdydd

Pendeulwyn
Image caption Y ffordd bresennol trwy Bendeulwyn ym Mro Morgannwg

Gallai heol newydd i wella cysylltiadau trafnidiaeth â Maes Awyr Caerdydd greithio "ysgyfaint gwyrdd" y brifddinas, medd ymgyrchwyr.

Byddai'r datblygiad, i gysylltu cyffordd 34 yr M4 gyda ffordd yr A48, yn torri drwy hyd at saith o goetiroedd hynafol.

Mae ymgynghoriad ar y cynlluniau'n cau yr wythnos nesaf.

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, roedd ystyried yr effaith ar yr amgylchedd yn allweddol wrth lunio'r cynlluniau.

Maen nhw wedi cynnig dau lwybr gwahanol ar gyfer yr heol, fyddai'n croesi tir fferm agored ac ardaloedd o goedwig.

Llywodraeth Cymru fyddai'n ariannu'r gwaith, er mwyn ei gwneud yn haws i deithio yn ôl ac ymlaen i'r M4 o safleoedd gwaith pwysig yn yr ardal, fel y maes awyr a ffatri newydd Aston Martin.

'Gwallus a dinistriol'

Ond yn ôl Cymunedau'r Fro ar Gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol mae'r cynlluniau'n "wallus a dinistriol".

Mae'r grŵp newydd wedi'i sefydlu i wrthwynebu'r ffordd, ac yn honni eu bod yn cynrychioli dros 200 o bobl leol o amgylch pentref Pendeulwyn.

Pa bynnag lwybr sy'n cael ei ddewis, byddai'n ymylu ar y pentref - sy'n ardal o gadwraeth ddynodedig oherwydd ei adeiladau nodedig a'i olygfeydd hardd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Mali Tudno Jones bod "dim digon o dystiolaeth cryf" i gyfiawnhau lôn newydd

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp, Glynis Lloyd, fod angen i'r cyhoedd ddeall beth fyddai'n cael ei golli yn amgylcheddol pe bai'r ffordd yn cael ei hadeiladu.

"Dyma yw'r llecyn yn lleol lle gall pobl ddod i anadlu a mwynhau byd natur - [i ardaloedd cyfagos] mae'n ysgyfaint gwyrdd," meddai.

Roedd cynlluniau tebyg ddegawd yn ôl ond fe gafon nhw eu hatal ar ôl i bobl leol wrthwynebu.

'Nonsens'

Yn ôl yr actores Mali Tudno Jones, sy'n byw ym Mhendeulwyn, does "dim digon o dystiolaeth cryf" i gyfiawnhau atgyfodi'r drafodaeth.

"Mae 'na adroddiadau yn dod mas drwy'r amser sy'n dweud bod heolydd newydd ddim yn datrys y broblem o draffig ond yn hytrach yn annog mwy ohono fe, a llygredd hefyd," meddai.

"Mae'r Fro yn brydferth ac mae'n cael ei ddefnyddio gan gymaint o bobl - mae 'na lwybrau cyhoeddus dros y lle i gyd a phobl yn dod yma i seiclo a cherdded.

"Y peryg yw y gwnawn ni golli adnodd fel hyn i bobl de Cymru oherwydd y misconception bod heolydd newydd yn mynd i ddatrys problemau cymdeithasol, sy'n nonsens pur."

Image caption Dywedodd Owain Hanmer bod Cymru ag "obsesiwn gydag adeiladu ffyrdd"

Yn ôl un arall o aelodau'r grŵp, Owain Hanmer, mae'r datblygiad yn peryglu ardal o ddiddordeb gwyddonol eithriadol, a bod rhywogaethau prin yn byw ar hyd y ddau lwybr.

"Mae hyn yn lot mwy nac ymgyrch not-in-my-back-yard," meddai, gan alw am fwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

"Am ryw reswm yng Nghymru mae gyda ni obsesiwn gydag adeiladu ffyrdd."

£58.6m neu £81m

Petai'r llwybr gorllewinol yn cael ei ddewis byddai'n costio £58.6m.

Mae'r opsiwn dwyreiniol yn ddrytach - £81m - a hynny am y byddai'n gorfod croesi ardal sydd wedi'i effeithio gan lifogydd yn y gorffennol.

Mae cyfleusterau parcio a theithio a gorsaf rheilffordd newydd yn agos at gyffordd 34 o'r M4 wedi'u cynnwys yn y cynlluniau hefyd.

Image caption Mae Llinos Price o Coed Cadw wedi disgrifio'r cynlluniau fel rhai "cwbl annerbyniol"

Yn ôl astudiaeth gafodd ei chomisiynu gan y cyngor sir, mae'r ardal mewn perygl o ddioddef yn economaidd os nad yw cysylltiadau trafnidiaeth yn cael eu gwella, gan grybwyll ffyrdd lleol "gwael iawn" a thagfeydd.

Ond yn ôl Llinos Price o elusen Coed Cadw mae'r cynlluniau'n "gwbl annerbyniol".

"Dim ond 4% o dirwedd Cymru sydd wedi'i orchuddio â choetiroedd hynafol, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n eu gwarchod nhw er lles bioamrywiaeth," meddai.

"Mae 'na wastad bobl yn dweud bod angen heolydd newydd - ond mae 'na ffyrdd eraill o gyrraedd y maes awyr, a byddwn i yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y rheiny."

Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg does dim penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â pha un o'r ddau lwybr fydd yn cael ei ddewis, na chwaith os fydd ffordd newydd yn cael ei hadeiladu o gwbl.

'Taclo tagfeydd a thraffig'

Dywedodd Emma Reed, pennaeth gwasanaethau cymunedol a thrafnidiaeth y cyngor, bod yr effaith ar yr amgylchedd a phobl leol wedi bod yn greiddiol i'r gwaith o lunio'r cynlluniau.

"Ry'n ni'n croesawu ymateb gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd, gan gynnwys Coed Cadw," meddai.

"Petai'r cynlluniau yn mynd yn eu blaen, y gobaith yw y bydd gwell gysylltiadau gyda'r M4 a'r A48, gan leihau amserau teithio i fusnesau ac atyniadau lleol, yn ogystal â helpu taclo tagfeydd a phroblemau traffig."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu strategaeth coetiroedd yn "cydnabod gwerth unigryw coetiroedd hynafol."

"Ry'n ni wedi ymgynghori ynglŷn â'r strategaeth yn ddiweddar ac wrthi'n ystyried sut y gallwn ni eu diogelu ymhellach."

Image caption Yn ôl Paul Beddoe mae "cyrraedd yr M4 yn hawdd o'r maes awyr yn allweddol"

Dywedodd Paul Beddoe, rheolwr marchnata Gwesty'r Fro yn Hensol ei fod yn credu bod y ffordd newydd yn "allweddol".

Mae'r gwesty a'i gwrs golff wedi gweld cynnydd mewn ymwelwyr o dramor yn ddiweddar ers i hediadau o'r Almaen a Norwy gael eu cyflwyno i Faes Awyr Caerdydd.

"Mae gallu cyrraedd yr M4 yn hawdd o'r maes awyr yn allweddol i brofiad ymwelwyr ond hefyd i fusnesau sy'n cludo nwyddau aton ni," meddai.

"Dwi'n sensitif iawn i bryderon pobl leol ond yn y pen draw mae'r ffyrdd gwledig yma'n cael eu defnyddio'n barod gan bobl sy'n teithio o gyffordd 34, a hynny'n aml yn achosi tagfeydd a phroblemau gwirioneddol."