Mark Williams i dderbyn rhyddid Blaenau Gwent

Mark Williams Image copyright Getty Images

Bydd pencampwr snwcer y byd, Mark Williams yn cael ei anrhydeddu ymhellach pan fydd yn derbyn rhyddid bwrdeistref Blaenau Gwent.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Williams drechu John Higgins o 18-16 ffrâm yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn gynharach ym mis Mai.

Dyma'r trydydd tro i Williams ennill y bencampwriaeth, gyda'i fuddugoliaeth gyntaf yn dod 18 mlynedd yn ôl.

Y Cymro fydd y 10fed unigolyn i dderbyn yr anrhydedd, ond y cyntaf o'r byd chwaraeon.

Bydd seremoni yn cael ei gynnal yn hwyrach yn y flwyddyn, ar ôl i aelodau o'r cyngor sir gefnogi cais i'w anrhydeddu yn unfrydol.

Dywedodd y cynghorydd Derrick Bevan fod Williams yn "haeddiannol iawn" o'r anrhydedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol