Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' ar yr A470

A470 Image copyright Google

Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" ar yr A470 yn y gogledd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur am 13:58 ddydd Llun rhwng Blaenau Ffestiniog a Betws-y-Coed.

Mae'r ffordd wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad, ac mae'r heddlu wedi gofyn i deithwyr gadw draw o'r ffordd honno am gyfnod.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans, hofrennydd a cherbyd ymateb brys eu galw i'r digwyddiad, ac mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.