Rushing water as flooding hits hospital
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y dŵr yn llifo i ysbyty Y Trallwng wedi glaw trwm

27 Mai 2018 Diweddarwyd 19:39 BST

Mae llifogydd yn ystod dydd Sul wedi cau ward famolaeth Ysbyty Coffa Victoria yn Y Trallwng.

Fe lifodd dŵr i'r adeilad wedi glaw trwm ac roedd y difrod pennaf i uned mân anafiadau yr ysbyty.

Mae achosion a oedd angen sylw yn y ward famolaeth yn cael eu cyfeirio i'r Drenewydd - 15 milltir i ffwrdd.

Mae'r gwaith glanhau yn mynd yn ei flaen.

Yn y cyfamser nodwyd mai'r lle gwlypaf yng Nghymru yn ystod y 24 awr ddiwethaf - a'r ail gwlypaf yn y DU - oedd Y Bala.