Gyrrwr, 57 oed,wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy

twneli Image copyright Google

Mae person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Fynwy.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y cerbyd Range Rover llwyd wedi gwyro oddi ar ffordd yr A40 tua'r de rhwng twneli Gibraltar a Llanddingad am tua 00:20 fore Sul.

Yn ôl y gwasanaethau brys, bu farw'r gyrrwr 57 oed yn y fan a'r lle.

Mae'r ffordd tua'r de yn parhau i fod ar gau rhwng Cinderhill Street a Mitchel Troy.