Sawl 'c' sydd yn Cricieth/Criccieth?

Arwydd Criccieth Image copyright Jeremy Bolwell/Geograph
Image caption Beth sydd mewn enw?

Mae'n un o gwestiynau mawr bywyd sydd wedi rhwygo barn dros y degawdau - sawl 'c' sydd ynghanol yr enw Cricieth/Criccieth?

Wel, mae 'na ateb swyddogol wedi dod gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

"Un 'c' yw'r cyngor yn sicr," meddai Dr Eleri James ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru ddydd Gwener, 25 Mai.

"Mae hynny'n parchu orgraff y Gymraeg - sut rydyn ni'n ei sillafu hi. Dydyn ni ddim yn dyblu 'c' rhagor."

Bydd Cricieth yn un o tua 3,000 o enwau fydd ar restr newydd o enwau lleoedd mae Comisiynydd y Gymraeg wedi eu safoni.

Y Comisiynydd sy'n gyfrifol am argymell ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymru.

Mae safoni enwau'n bwysig iawn yn yr oes ddigodol, meddai Dr James, un o Uwch Swyddogion Comisiynydd y Gymraeg, wrth i bobl ddefnyddio mwy a mwy ar enwau lleoedd i archebu ar-lein, defnyddio mapiau digidol a theclynnau sat nav.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n parchu sillafiad safonol y Gymraeg ac yn dyrchafu'r ffurfiau Cymraeg ac yn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio gan bawb," meddai.

Seisnigo neu sillafiad hanesyddol?

Mae'r cyngor tref lleol, Cyngor Tref Criccieth, yn defnyddio dwy 'c' yn yr enw tra mae gwefan Cyngor Gwynedd yn defnyddio'r ddwy ffurf.

Mae nifer yn defnyddio'r enw Criccieth yn Saesneg a Cricieth yn Gymraeg

Mae rhai yn dadlau mai ffurf wedi ei Seisnigo yw Criccieth efo dwy 'c' tra mae eraill yn dweud ei fod yn sillafiad hanesyddol - o bosib yn dod o gyfuniad o'r geiriau "crug" a "caeth", yn ôl un esboniad.

Ond dywedodd Dr James nad oedd dwy 'c' yn dilyn rheolau'r iaith ysgrifenedig heddiw.

Dywedodd fod y rhestr newydd hefyd yn argymell mai un 't' sydd yn ymddangos yn yr enw Betws drwy Gymru ac mai dwy 'n' ddylai fod yn Llangrannog bob tro.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd, fydd yn cael ei chynnal 28 Mai-2 Mehefin ar Faes y Sioe Fawr, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn i ymwelwyr am gymorth i brofi'r rhestr newydd, i sicrhau fod enw eu pentref neu eu tref nhw wedi ei gynnwys ynddi.

Bydd y rhestr yn cael ei lansio ar 20 Mehefin ym Mae Caerdydd a bydd ar gael wedi hynny o wefan Comisiynydd y Gymraeg.