Cydraddoldeb yng Nghymru: "Dydy e ddim digon da"

shazia

Ydy merched yn cael cynrychiolaeth deg ym mywyd cyhoeddus Cymru? Os ddim, be ellir ei wneud am y peth?

Mewn trafodaeth yng Ngŵyl y Gelli ar Ddydd Mawrth, 29 Mai bydd rhai o ferched mwyaf blaenllaw Cymru yn trafod rôl merched ym mywyd cyhoeddus ein cenedl.

Un o'r rhai ar y panel fydd Shazia Awan-Scully, sy'n gweithio ym myd cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd.

Fe siaradodd Cymru Fyw gyda Shazia i glywed ei stori a pham mae hi'n teimlo bod yna lawer mwy i'w wneud i gyrraedd cydraddoldeb yng Nghymru.


Cefais fy ngeni yng Nghaerffili a fy magu yng Nghaerdydd. Dwi'n angerddol o falch o fod yn Gymraes, ac rwyf wedi gweld nifer o ffrindiau o ledled y byd yn setlo yng Nghymru ac yn cael yr un ymdeimlad o falchder. Mae fy ngŵr yn un ohonyn nhw! Sais o Luton ydy e'n wreiddiol, a ddysgodd Gymraeg tra'n byw yn Aberystwyth.

Mae fy nheulu o gefndir Asiaidd Uganda, a daethon nhw i'r Deyrnas Unedig yn y 1970au cynnar, wedi iddyn nhw golli popeth a chael eu taflu mas o Uganda gan Idi Amin. Roedd gan y gymdeithas Asiaidd yn Uganda basborts Prydeinig, ac fe ddaeth fy rhieni i dde Cymru a dechrau bywyd newydd yma.

Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed, ac mae hynny wedi dod gan fy nhad oedd yn yrrwr rasio adnabyddus yn Uganda ac yn trafod gwleidyddiaeth yn aml... ac ar y pryd yn rhannu'r un cylchoedd cymdeithasol ag Idi Amin a'i griw. Wnes i sylweddoli tra o'n i'n ifanc bod rhaid bod yn rhan o'r broses os oeddech chi am weld newid positif, ac oherwydd hyn wnes i ymuno â phlaid wleidyddol.

Roeddwn yn Geidwadwr am rai blynyddoedd. Roeddwn yn hoff iawn o'r hyn roedd David Cameron yn ei ddweud am greu Plaid Geidwadol fwy agored a chynhwysol. Fi oedd y ddynes gyntaf o dras Asiaidd i annerch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn 2010 roeddwn yn ymgeisydd dros y blaid (sefais yn erbyn Andy Burnham yn Leigh).

Ond wedi i'r blaid ddod i rym fe ges i fy nieithrio gan lawer o'r pethau roedd y blaid yn eu gwneud ac felly mi adawais sawl blwyddyn yn ôl. Roeddwn yn wrthwynebydd chwyrn a chyhoeddus o ymgyrch Zac Goldsmith yn erbyn Sadiq Khan yn etholiad Maer Llundain yn 2016, a oedd, ym marn llawer (gan gynnwys fi), yn hiliol. Yn gynharach eleni fe ymunais â Llafur Cymru.

Ymgyrchu dros gydraddoldeb

Rwyf yn angerddol ynglŷn â sicrhau cydraddoldeb, ac ymgyrchu dros grwpiau sy'n profi gwahaniaethu yn eu herbyn, sydd ar yr ymylon neu heb lais. Rydw i wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros hawliau merched, gwrth hiliaeth a chydraddoldeb i bobl LHDT (LGBT).

Mae'r materion yma weithiau'n cymryd ffurf arbennig yn y gymuned De Asiaidd, rhywbeth y byddai rhywun o gefndir gwahanol i mi yn ei chael yn anodd ei ddeall. Rydw i wedi codi fy llais am Islamoffobia ac eithafiaeth ac mi fyddaf yn parhau i wneud hynny a wna i ddim derbyn y dylai rhywun o fy nghrefydd a fy nghefndir diwylliannol i, yn enwedig menywod o fy nghymuned i, gael llai o hawliau neu lai o lais na phobl eraill.

Image caption Yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2016 cafodd 25 o fenywod eu hethol (allan o gyfanswm o 60 AC). Yn 2003 roedd y Cynulliad wedi ei rannu 30-30 rhwng dynion a menywod.

'Dynion yn dominyddu'

Yn hanesyddol mae Cymru wedi bod yn wael iawn o safbwynt menywod mewn bywyd cyhoeddus, ond gallwch weld bod yna ewyllys i newid hyn, yn haenau uchaf Llywodraeth Cymru er enghraifft. Dynion sydd wedi dominyddu mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Mae llawer yn gweld hyn yn rhyfedd gan fod Cymru wedi pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol asgell chwith yn gyson ers dros ganrif a hanner.

Ond fe ddaeth twf y Blaid Lafur yng Nghymru yn wreiddiol ar sail y cysylltiadau gyda'r undebau llafur mewn gweithleoedd lle'r oedd dynion yn gweithio'n bennaf, fel y gweithfeydd glo a dur. Ac mae'r gwaddol yma'n dal gyda ni heddiw i ryw raddau.

Pan gafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei greu, fe aeth rhai pleidiau ati i sicrhau ei fod yn edrych ac yn swnio'n wahanol iawn i San Steffan. Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae'r gyfradd o Aelodau Cynulliad sy'n ferched wedi gostwng. Mae llai na chwarter o'n Haelodau Seneddol yn fenywod, ac ychydig bach dros chwarter o'n cynghorwyr lleol sy'n fenywod.

Dim ond dau gyngor sydd â dynes yn eu harwain. Yn ogystal â hyn, os edrychwn ni ar 100 busnes mwyaf Cymru dim ond dwy ddynes sy'n brif weithredwyr. Ar draws haenau uwch ein sectorau cyhoeddus, preifat a'r drydedd sector, yr un yw'r stori: mae'n rhaid i ni beidio â meddwl bod y gwaith wedi ei wneud.

Yn fwy cyffredinol, mae menywod yn chwarae rhan llawer rhy fach fel arweinwyr yng Nghymru - ym myd busnes, y cyfryngau ac mewn cyrff cyhoeddus. Mae 'na lawer wedi ei gyflawni, ond mae cymaint mwy eto i'w wneud.

Cwotâu a rhestrau merched yn unig

Yn fy nyddiau gyda'r Ceidwadwyr roeddwn yn erbyn y math yma o gamau. Roeddwn yn teimlo fy mod eisiau llwyddo oherwydd fy ngallu fy hun, ac y byddai unrhyw lwyddiant yn cael ei ddibrisio os byddai'n digwydd oherwydd gwahaniaethu o mhlaid. Rwyf wedi newid fy meddwl.

Dros y blynyddoedd rydw i wedi sylwi ar y nifer o ffyrdd, yn aml yn gynnil ac yn anfwriadol, mae menywod - yn enwedig rhai o'r cymunedau sydd ar yr ymylon - yn gallu dioddef gwahaniaethu. Mae angen i ni newid yr ystrydebau ynglŷn â'r ddelwedd o arweinydd neu gynrychiolydd. Weithiau mae'n rhaid cymryd camau positif i symud pethau ymlaen yn gyflymach.

Allwn ni ddim disgwyl i eraill newid eu hymddygiad os nad yw'r bobl sydd mewn sefyllfa o bŵer a braint yn fodlon gwneud hynny. Er enghraifft, mae prifysgolion i fod yn ganolfannau ar gyfer datblygu meddylfryd blaengar a goleuedig. Felly pam bod cyn lleied o fenywod a phobl o liw mewn sefyllfa o awdurdod? Dydy e ddim digon da.

Pynciau Cysylltiedig