Middlesex yn trechu Morgannwg yn y Cwpan Undydd

James Franklin Image copyright Getty Images
Image caption James Franklin oedd prif sgoriwr Middlesex gyda 62 rhediad

Colli oedd hanes Morgannwg yn y Cwpan Undydd mewn gêm agos yn erbyn Middlesex yng Ngerddi Soffia nos Fercher.

Cafodd yr ymwelwyr fatiad cryf gan gyrraedd sgôr o 304-6 ar ddiwedd y 50 pelawd, gyda James Franklin yn serennu gyda 62 rhediad heb fod allan.

Daeth batiad Morgannwg i ben ar 302-9 er i David Lloyd sgorio 92.

Roedd yn rhaid i Timm van der Gugten sgorio chwech oddi ar y bêl olaf i sicrhau gêm gyfartal, ond ni lwyddodd i wneud hynny.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg eto i ennill yn y Cwpan Undydd y tymor yma, a dyma eu trydedd colled yn olynol.