Llawdriniaeth frys i gyflwynydd Radio Cymru, Ifan Evans

Ni fydd cyflwynydd Radio Cymru, Ifan Jones Evans yn darlledu am gyfnod ar ôl cael ei ruthro i'r ysbyty fore Mercher.
Cafodd y cyflwynydd 33 oed lawdriniaeth frys yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth i dynnu ei goluddyn crog (appendix).
Y cyflwynydd Marc Griffiths fydd yn gyfrifol am raglen BBC Radio Cymru rhwng 14:00 a 17:00 ddydd Mercher a Iau yn ei absenoldeb.
Dywedodd llefarydd ar ran Radio Cymru: "'Da ni'n dymuno'r gorau a gwellad buan i Ifan ac yn anfon ein cofion ato."
Mae disgwyl i Mr Evans gyflwyno cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe Frenhinol nos Sul, 27 Mai.