Prydaineiddio

Mae pawb yn y busnes yma wedi cael y profiad o geisio dod o hyd i air Cymraeg sy'n cyfleu union ystyr term neu air Saesneg. Mae'n gallu bod yn lladdfa weithiau. Os oes rhywun mas yna sydd â gair gwell am 'victim' na 'dioddefwr', cysylltwch plîs! Mae newyddiadurwyr Cymru ei angen ar fyrder!

Ond weithiau hefyd mae gair Cymraeg newydd yn dod o nunlle - gair y mae pawb yn deall yn syth er nad ydynt wedi ei glywed o'r blaen. Gair felly yw 'Prydaineiddio'.

Dim ond pedwar canlyniad sy'n ymddangos os ydych chi'n gwglo'r gair a dyw e ddim chwaith yn ymddangos yn ein geiriaduron. Eto i gyd rwy'n fodlon mentro eich bod chi'n deall ystyr y gair yn syth. Prydaineiddio (be) : I wneud yn Brydeinig. Am wn i rywbeth fel 'Britishize' fyddai'r cyfieithiad Saesneg, ond, iesgob, mae hwnna'n hyll!

Ar ôl hepgor trydaneiddio'n trenau does dim dwywaith bod Prydaineiddio yn uchel ar agenda Llywodraeth y DU a Swyddfa Cymru ar hyn o bryd. Dyma i chi ambell i flas o araith Theresa May yng nghynhadledd Ceidwadwyr Cymru ddydd Gwener.

"...the United Kingdom is not a loose federation of semi-detached units.We are one strong Union of nations and people. And an unswerving faith in that Union has always been one of the hallmarks of our Conservative and Unionist Party..."

"...Half the Welsh population lives within 25 miles of the border, and millions of people cross that border in the course of their businesses every year. If you live in Wrexham, Rhyl or Llandudno then Chester, Liverpool and Manchester mean more to your local economy than Cardiff or Swansea. North Wales is a key element of the Northern Powerhouse. And Alun has identified and will realise the potential for a 'Western Powerhouse' that brings the economies of south Wales and the south west of England - Cardiff, Newport and Bristol - closer together."

Mae'r ddau ddyfyniad yna yn amlinellu'r polisi'n ddigon eglur. Dyw'r peth ddim yn gyfrinach.

Yn gyntaf, bwriedir cryfhau symbolau'r Deyrnas Unedig yng Nghymru trwy, er enghraifft, ail-frandio pencadlys newydd yr adran drethi yng Nghaerdydd fel pencadlys Llywodraeth Prydain yng Nghymru.

Gallwn ddisgwyl llawer mwy. Wrth i faner Ewrop ddiflannu o fyrddau hysbysebu datblygiadau newydd mae'n debyg y bydd baner yr undeb yn cymryd ei lle ond nid dyna'r unig agwedd i'r polisi.

Yn ogystal, fe fydd 'na ymdrechion i wneud y ffin economaidd rhwng Cymru a Lloegr yn fwyfwy anweledig ac mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ddigon cysurus ynghylch yr ymdrech hwnnw. Beth arall ond ymdrech i wella economi Cymru trwy ei chlymu'n agosach i Loegr yw pethau fel Metro'r gogledd ddwyrain a'r M4 newydd i'r de o Gasnewydd?

Nawr, mae 'na ddadleuon economaidd cryf dros gynlluniau o'r fath - ond mae 'na oblygiadau gwleidyddol a diwylliannol hefyd a dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth Cymru'r un mor effro i'r goblygiadau hynny â deiliaid Swyddfa Cymru.