Cyhuddo llanc o geisio treisio menyw yng nghanol Caerdydd

maes parcio Image copyright Jaggery/Geograph

Mae disgwyl i lanc 17 oed fynd o flaen llys ynadon Caerdydd ddydd Mercher mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw honedig yng nghanol y ddinas.

Mae'r llanc o ardal Grangetown wedi ei gyhuddo o geisio treisio menyw ym maes parcio NCP yn Stryd y Cei yng nghanol y ddinas.

Yn ôl Heddlu'r De fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig o gwmpas 05:00 fore Mawrth.

Ni ellir enwi'r bachgen am resymau cyfreithiol.

Pynciau Cysylltiedig