Clywed achos saethu Llanbedrog ym mis Tachwedd

Peter Colwell Image copyright Facebook
Image caption Bu farw Peter Colwell, oedd yn 18 oed, yn y digwyddiad yn Llanbedrog

Bydd yr achos yn erbyn pedwar dyn mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 18 oed yn Llanbedrog yn cael ei gynnal fis Tachwedd.

Bu farw Peter Colwell pan gafodd ei saethu mewn car ym maes parcio tafarn y Llong yn Chwefror y llynedd.

Mae Benjamin George Fitzsimmons, 22 oed o Nanhoron, Pwllheli, a Ben Andrew Wilson, 28 oed Ely, Sir Caergrawnt, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd.

Maen nhw a dau arall - Harry Robert Butler, 23 oed o Laniestyn, Pwllheli, a Michael David Fitzsimmons, 25 o Nanhoron, Pwllheli - yn gwadu bod â dryll yn eu meddiant mewn lle cyhoeddus ym Mhwllheli, Ystad Bodfuan, Abersoch a Llanbedrog.

Fe wnaeth Butler a Michael Fitzsimmons - oedd yn eistedd bob ochr i Mr Colwell yn sedd gefn y car - wneud cais i Lys y Goron Yr Wyddgrug i ollwng y cyhuddiadau yn eu herbyn, ond gwrthod hynny wnaeth y barnwr Mr Ustus Clive Lewis.

Bydd yr achos yn cychwyn ar 19 Tachwedd yn Llys y Goron Caernarfon, ac mae disgwyl iddo bara am dair wythnos.

Straeon perthnasol