Pwll Padlo prom Aberystwyth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Fydd y pwll badlo ar brom Aberystwyth ddim yn ail agor

23 Mai 2018 Diweddarwyd 07:52 BST

Mae 'na ansicrwydd ynglŷn â dyfodol y pwll padlo sydd ar bromenâd Aberystwyth, ar ôl i Gyngor Ceredigion gadarnhau nad oedd modd ei agor ar hyn o bryd gan fod y tywydd wedi difrodi'r strwythur.

Mae'r pwll wedi bod ynghau ers 2016, ar ôl i'r wyneb gael ei ddifrodi yn ystod cyfnod o dywydd gwael.

Mae'r Cyngor bellach yn trafod gyda chorff allanol ynglŷn â dyfodol yr atyniad poblogaidd.

Yn ôl un cynghorydd lleol, Ben Davies, mae pwysigrwydd hanesyddol y pwll yn golygu bod rhaid datrys yr ansicrwydd yma am ei ddyfodol.