Y newyddiadurwr ac ysgolhaig Meic Stephens wedi marw

Yr Athro Meic Stephens

Mae'r awdur a'r newyddiadurwr yr Athro Meic Stephens wedi marw yn 79 oed.

Roedd yn gyfarwyddwr adran lenyddiaeth Cyngor y Celfyddydau am rai blynyddoedd, yn gyfrifol am sefydlu'r cylchgrawn Poetry Wales, ac yn athro mewn ysgrifennu Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg ym Mhrifysgol Morgannwg.

Roedd yn awdur nifer o lyfrau, ac yn olygydd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Mewn teyrnged ar Twitter, dywedodd Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Gwerfyl Pierce Jones: "Atgofion melys am Meic Stephens un o gymwynaswyr mwyaf llên a diwylliant Cymru.

"Ac un a gyfrannodd gymaint at ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o ddwy lenyddiaeth ein gwlad.

"Meddwl am Ruth a'r teulu i gyd."

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Meic Stephens gyda Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure, a Gwerfyl Pierce Jones adeg ei urddo'n Gymrawd ym mis Mai

'Cofiwch Dryweryn'

Cafodd ei eni yn Nhrefforest ger Pontypridd a'i fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg.

Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor a Phrifysgol Rennes yn Llydaw.

Wedi cyfnod yn dysgu Ffrangeg yng Nglyn Ebwy fe newidiodd ei yrfa ac ymuno â'r Western Mail fel newyddiadurwr.

Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru bu'r cyn-Aelod Seneddol, Cynog Dafis, sydd wedi ei nabod ers pan yn gyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ei ddisgrifio fel dyn diymhongar, hynaws, a oedd yn "genedlaetholwr o'r gwraidd".

"Beth oedd yn eich taro chi oedd bod ganddo egni a brwdfrydedd cadarnhaol iawn, iawn," meddai Mr Dafis.

"O'dd e'n fachgen eithriadol o alluog, ac o'dd hynny i'w weld yn gynnar. O'dd na ddim byd ymhongar ynddo fe, doedd dim unrhyw fawredd na balchder.

"O'dd e'n fachgen hynaws, cyfeillgar dros ben, hael ym mhob dull a modd ac wrth gwrs bryd hynny yn gwbl ddi-Gymraeg."

'Dyn mawr'

"Bachgen nodweddiadol o'r cymoedd, ac fe fydden i'n dadlau bryd hynny ei fod e braidd yn ymfalchio yn y ffaith mai Cymro di-Gymraeg o'r cymoedd o'dd e, ond yn genedlaetholwr o'r gwraidd.

"Fe wnaeth e dyfu i fod yn Gymro Cymraeg gydag amser, mabwysiadu'r iaith, ac o'dd hynny'n destyn balchder mawr iddo fe.

"Bysen i'n dweud bod Meic Stephens, ym mhob ystyr i'r gair, yn rhinwedd y cyfraniad anfesuradwy, yn ddyn mawr. "

Image caption Roedd Meic Stephens yn dad i'r cyflwynydd radio Huw Stephens

Yn 1967 cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Fe fu yn y swydd honno am chwarter canrif ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe olygodd y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.

Wedi'r penderfyniad i adael y swydd yn 1990 a gweithio ar ei liwt ei hun, aeth yn ei flaen i ysgrifennu, cyfieithu neu olygu tua 170 o lyfrau,

Mae'r cyfrolau a gyhoeddodd yn cynnwys:

  • Casgliadau o waith y bardd Harri Webb;
  • Casgliad o gerddi Cymreig yr 20fed ganrif;
  • Cyfrol o'i gerddi ei hun yn y Wenhwyseg o dan y teitl 'Wilia';
  • Hunangofiant yn Gymraeg a Saesneg.

Hefyd fe gyhoeddodd gasgliad o'i ysgrifau coffa i Gymry amlwg oedd wedi ymddangos ym mhapurau newydd yr Independent a'r Guardian.

Yn gynharach eleni, cafodd ei gyfraniad i fywyd llenyddol Cymru ei gydnabod gan Brifysgol Aberystwyth, wrth iddo gael ei urddo'n Gymrawd.

Fe wnaeth hefyd helpu sgwennu'r slogan eiconig 'Cofiwch Dryweryn' ar ochr craig ger Llanrhystud.

Mae'n gadael gwraig, Ruth, a phedwar o blant - y cyflwynydd radio Huw Stephens a thair merch; Lowri, Brengain a Heledd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol