Sêl bendith i ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd

Ffordd osgoi Caernarfon Image copyright Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n bwrw ymlaen gyda chynllun ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.

Ers misoedd mae cynghorwyr a thrigolion lleol wedi bod yn galw ar y llywodraeth i ddod i benderfyniad ynglŷn â'r ffordd osgoi yn yr ardal.

Bydd y gwaith yn golygu adeiladu ffordd newydd chwe milltir (9.7km) er mwyn ceisio lleihau tagfeydd yn yr ardal yn ystod oriau brig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r gwaith ar y ffordd osgoi, sydd werth £135m, gael ei gwblhau erbyn 2021.

'Cysylltu cymunedau'

Bydd y llywodraeth nawr yn bwrw ati i ddyfarnu cytundeb er mwyn dechrau'r gwaith adeiladu.

Mae disgwyl i'r gwaith hwnnw ddechrau ym mis Tachwedd eleni, a chael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2021.

"Mae'n newyddion gwych y byddwn ni'n bwrw ymlaen i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd," meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn ystod ymweliad â'r ardal ddydd Iau.

"Bydd y ffordd newydd yn helpu i gysylltu cymunedau yn yr ardal drwy seilwaith cynaliadwy a chadarn, a bydd hefyd yn gyswllt hanfodol i'r A55 a'r tu hwnt i Iwerddon, Lloegr ac Ewrop.

"Mae hefyd yn gyfle mawr i sicrhau swyddi yn lleol, hyfforddiant i'r gweithlu a phrentisiaethau, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu."

Image caption Roedd Carwyn Jones a Ken Skates ym Montnewydd ddydd Iau i gyhoeddi y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai'r datblygiad yn dod â "llawer o fanteision i'r ardal".

"Bydd y ffordd osgoi yn helpu i leihau tagfeydd traffig, gwella ansawdd yr aer a lleihau sŵn o gerbydau modur yng Nghaernarfon, Bontnewydd a phentrefi cyfagos," meddai.

"Drwy hyn, bydd yn ein cymunedau a'n hamgylchedd yn fwy iach."

Dywedodd y byddai'r ffordd osgoi hefyd yn gwella cysylltiadau ag ardaloedd twristaidd fel Pen Llŷn.

Image caption Y gobaith yw lleihau tagfeydd traffig yn yr ardal

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan y gwleidyddion lleol Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS, ddywedodd ei fod yn "fuddugoliaeth ysgubol i ymgyrch hir dymor Plaid Cymru Arfon".

"Bydd y ffordd osgoi newydd yn hwb anferth i'n heconomïau lleol a chenedlaethol, yn cryfhau ein hisadeiledd, ac yn cynnig cyfleoedd am swyddi i'n trigolion yn ogystal â darparu budd cymdeithasol hir dymor," meddai'r ddau mewn datganiad.

"Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn bwrw yn ei flaen ac fe fyddwn yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif er mwyn sicrhau fod y gwaith wedi'i gwblhau erbyn 2021 fel sydd wedi'i addo."

Oedi

Mae hi bellach tua 10 mlynedd ers dechrau trafod adeiladu'r ffordd osgoi.

Bydd y ffordd newydd yn mynd o gylchfan Plas Menai, ac yn pasio i'r dwyrain o Gaernarfon, cyn croesi'r A487 presennol.

Fe fydd y ffordd wedyn yn pasio i'r gorllewin o bentrefi Bontnewydd, Dinas a Llanwnda, cyn dod allan yng nghylchfan Llanwnda.

Bydd cylchfannau newydd hefyd yn cael eu hadeiladu ym Meifod a Chibyn fel rhan o'r datblygiad.

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Bydd y ffordd yn dechrau ar gylchfan y Goat â'r A487 a'r A499

Y bwriad gwreiddiol oedd adeiladu'r ffordd osgoi yn 2016 a'i gorffen erbyn y llynedd.

Symudwyd y dyddiadau hynny eto gyda'r bwriad o gwblhau erbyn diwedd 2019, ond llynedd fe gyhoeddwyd oedi pellach gyda chyhoeddiad yn cael ei wneud cyn diwedd y gaeaf.

Ym mis Mawrth 2018 cafodd y llywodraeth eu cyhuddo o "lusgo traed annerbyniol" wedi iddyn nhw gyfaddef eu bod angen rhagor o amser i ystyried o ganlyniad i'r "maint sylweddol o ohebiaeth" a gafwyd.

Image caption Bu trigolion lleol yn protestio'n ddiweddar gan alw ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad

Fe wnaeth yr oedi parhaus arwain at bryderon na fyddai'r ffordd osgoi yn digwydd o gwbl.

Yn ôl y cynghorydd Peter Garlick, sy'n cynrychioli Bontnewydd a Llanfaglan, mae'r tagfeydd traffig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "ofnadwy" ac mae'n broblem sydd angen ei datrys ers blynyddoedd.

"Mae'r traffig yn effeithio ar y pentrefi cyfagos hefyd. Mae'r traffig yn mynd 'nôl dwy neu dair milltir - fwy weithiau yn yr haf wrth gwrs," meddai.

"Mae'n ymestyn 'nôl i dref Caernarfon, mae'n ymestyn fyny i bentre' Llanwnda, ac os rhywbeth mae'n ymestyn 'mlaen i gyfeiriad Groeslon."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol