Atal y ddwy brif wobr lenyddol am y tro cyntaf ym Môn

eiteddfod mon

Am y tro cyntaf yn hanes Eisteddfod Môn doedd yna ddim teilyngdod yn y ddwy brif gystadleuaeth lenyddol eleni.

Mae'r gadair wedi'i hatal o'r blaen a hefyd y fedal ryddiaith ond dyma'r tro cyntaf erioed i'r eisteddfod beidio cael teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth.

Yn ôl un o lywyddion anrhydeddus yr eisteddfod Ellis Wyn Roberts: "Roedd hynny yn siom ond rhaid oedd i'r beirniaid gynnal y safon."

Cafodd yr eisteddfod, yn ei ffurf bresennol, ei chynnal gyntaf yn 1907.

Hefyd eleni doedd yna neb wedi cystadlu am dlws yr ifanc.

Oherwydd safon a diffyg y cystadlu yn yr adran lenyddol ni fydd yna gyfansoddiadau i'w cyhoeddi.

'Wedi blino ers yr Eisteddfod Genedlaethol'

"Mae'n siŵr bod nifer o resymau am hyn," meddai Mr Roberts wrth Cymru Fyw, "y testun efallai ddim yn taro deuddeg a gormod o bethau eraill i'w wneud.

"Mae'n dipyn o dasg trefnu'r eisteddfod - mae'n costio miloedd, yn aml rhwng deunaw a 25 mil.

"Doedd y gynulleidfa ddim mor niferus ond wedi dweud hynna mi oedd 'na nifer o bethau eraill yn digwydd yn yr ardal a rhaid cofio bod nifer wedi gweithio'n galed iawn yn trefnu a chodi arian i'r Eisteddfod Genedlaethol y llynedd ac o bosib fod pobl wedi blino."

"Dwi'n pryderu am y dyfodol wrth i'r gynulleidfa a'r trefnwyr fynd yn hŷn ond mi fyddwn ni'n torri tir newydd y flwyddyn nesaf."

Torri tir newydd

Ffermwyr Ifanc yr ynys fydd yn gyfrifol am drefnu Eisteddfod Môn 2019 ac fe fydd yn cael ei chynnal yn Ysgol Uwchradd Bodedern.

Image copyright @cffiynysmon
Image caption Ffermwyr Ifanc Môn yn hybu'r Eisteddfod 2019

"Mi fydd yna nifer o gystadlaethau a gwobrau newydd mewn ffordd," meddai Mr Roberts, "gwobr o £1,000 i'r unawdydd gorau o dan 26, £500 i'r llefarydd gorau tan 26 ac fe fydd medal ryddiaith i rai dan 26.

"Dwin hyderus y bydd blas newydd i'r cystadlu a'r gobaith yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd at yr awenau yn y blynyddoedd sydd i ddod.

"Mae rhywun yn poeni am ddyfodol yr eisteddfod wrth gwrs - dyw gweld ysgolion yr ynys yn cau a'r capeli ddim yn help.

"Hefyd roedd yna 30 o eisteddfodau bach yn arfer bod ar yr ynys - ond rhyw bedair sydd bellach."

'Pwysig cynnal y safon'

Pedwar oedd wedi cystadlu am y gadair yn Eisteddfod Môn ar y testun 'Cerdd o fawl i afon Menai' - y ddau feirniad oedd Y Prifardd Ieuan Wyn, Bethesda a Gareth (Neigwl) Williams, Botwnnog.

Roedd chwech wedi cystadlu am y fedal a oedd yn gofyn am dri darn amrywiol ar y thema 'Dathlu' a'r beirniaid oedd Annes Glynn, Rhiwlas a Rhian Owen, Llangefni.

"Mae'n bwysig cynnal y safon," meddai Mr Roberts, "ond ry'n yn hynod o gyffrous a gobeithiol am Eisteddfod Môn y flwyddyn nesaf o dan ofal y ffermwyr ifanc."

Straeon perthnasol