Sŵn ffrwydrol canu gwerin Cymreig ar ei newydd wedd

Mae rhai o hoff gerddorion gwerin Cymru wedi dod at ei gilydd i greu grŵp newydd sy'n gobeithio newid delwedd canu gwerin draddodiadol.

Bydd Pendevig, sy'n cynnwys aelodau o'r bandiau gwerin Calan, Mabon a Plu, yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol wedi ei chyfuno â jazz, pop, ffync a drum'n'bass, mewn cyngerdd arbennig ar lwyfan y Pafiliwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ond cyn hynny, mae BBC Cymru Fyw yn rhoi'r cyfle i chi wylio'r fideo o drac cynta'r grŵp - 'Lliw Gwyn' - yma yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf. Mae'r gân hefyd wedi cael ei dewis fel Trac yr Wythnos BBC Radio Cymru yr wythnos nesaf, cyn dyddiad y rhyddhau ar 25 Mai.

  • Os na fydd y fideo yn ymddangos ar eich dyfais, pwyswch yma.

Yma, mae Angharad Jenkins, aelod o Calan, ac arweinydd Pendevig, yn esbonio pam ei bod hi am newid delwedd cerddoriaeth Gymraeg draddodiadol, denu mwy o bobl ifanc i'r sîn a dod â cherddoriaeth werin i lwyfan Maes B ryw ddydd!


"Mae 'na egni a diddordeb wedi bod mewn canu gwerin dros y ddeng mlynedd diwetha' a rydyn ni'n trio cadw'r egni ifanc yna. Mae ffurfio Pendevig, mewn ffordd, yn ddathliad o'r sîn werin", meddai Angharad Jenkins.

"Mae Gŵyl Lorient yn cael ei chynnal yn Llydaw, a bob blwyddyn mae gwlad Geltaidd wahanol yn hostio, ac eleni, am y tro cyntaf ers deng mlynedd, tro Cymru yw hi. Felly fe wnaethon ni, fel grŵp Calan, feddwl gwneud rhywbeth arbennig i fynd i Lydaw, a daeth cynnig hefyd i wneud y gig yn y Pafiliwn.

"Gyda chefnogaeth yr Eisteddfod mae'n golygu y gallwn ni ddewis ein hoff gerddorion i berfformio yn Pendevig gyda ni. Felly byddwn ni'n cynnal dau gig ym mis Awst, un yn Llydaw ar lwyfan rhyngwladol, ac un yn yr Eisteddfod."

A hithau wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth werin ers pan oedd yn ifanc, mae trio denu pobl ifanc at ganu gwerin Cymraeg yn bwysig iawn i Angharad Jenkins. Trwy arbrofi a chyfuno elfennau eraill gyda'r gwerin, mae'n gobeithio y bydd cerddoriaeth Pendevig yn cyrraedd cynulleidfa newydd.

Image copyright Angharad Jenkins

Ond wrth arbrofi gyda'r traddodiadol, a chyfuno offerynnau pres, neu roi triniaeth jazz i alawon gwerin, mae Angharad yn cyfadde' hefyd na fydd yn plesio pawb.

"Dwi'n meddwl bod 'na le i'r ddau beth - y canu gwerin traddodiadol a gwthio'r ffiniau," meddai.

"Mi fydd 'na rai pobl fydd ddim yn cytuno gyda beth ni'n 'neud, ond dwi wir yn meddwl bod e'n hollbwysig bod pobl yn dysgu beth yw canu gwerin Cymraeg.

"Mae rhai yn meddwl ei fod yn hen ffasiwn, ond os allwn ni agor y drws a gadael nhw mewn, bydd hynny'n grêt.

Image copyright Pendevig
Image caption Mae Pendevig yn cynnwys aelodau o grwpiau Calan, Mabon a Plu

"Dydyn ni ddim yn trio dweud mai dyma beth yw canu gwerin traddodiadol. Rydyn ni'n eitha' arbrofol, ond mae'n ffordd i mewn i gynulleidfa newydd," meddai.

"Dydy hwn ddim yn syniad hollol wreiddiol, mae bandiau yn gwneud hyn mewn gwledydd fel Yr Alban, Lloegr, Quebec a Llydaw. Ond 'sdim byd fel hyn wedi digwydd gyda cherddoriaeth Gymraeg.

"Yng Nghymru, dwi'n teimlo ein bod ni ar ei hôl hi tamed bach gyda chanu gwerin o'i gymharu â'r Alban.

"Pan wnes i ddechre fy niddordeb mewn cerddoriaeth werin pan o'n i'n ifanc, doedd dim byd i fy ysbrydoli i, roedd popeth i oedran fy rhieni. Roedd fy mam yn chwarae mewn band gwerin yn teithio o gwmpas Ewrop, ond pan rwyt ti'n dy arddegau, nid dy rieni di ydy'r pobl fwya' cŵl yn y byd, a doedd neb ifanc yn fy ysbydoli.


Hefyd o ddiddordeb:


"Doedd neb lot yn perfformio yn fyw yng Nghymru. R'on i'n gwrando ar Ar Log, ond o'n i'n edrych i'r Alban yn bennaf, mae ganddyn nhw draddodiad mor gryf, maen nhw'n gallu gwthio'r ffiniau i bob cyfeiriad.

"Ond mae 'na le, yn bendant, ar gyfer y stwff traddodiadol a ddylen ni byth golli hwnna. Mae'r cerddorion yn Pendevig yn dod o gefndir traddodiadol, rydyn ni'n gwybod am yr arddull Gymreig.

"Mae'n rhaid bod yn wyliadwrus wrth arbrofi, 'dyn ni ddim mo'yn colli y canu traddodiadol Cymraeg."

Cam ymlaen

Mae cynnal cyngerdd o gerddoriaeth werin ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gam ymlaen, meddai Angharad.

Ers i'r Tŷ Gwerin ennill ei le ar faes yr Eisteddfod, mae ei boblogrwydd wedi tyfu dros y blynyddoedd, ond canu gwerin ar ffurf cystadleuaeth - lle mae cywirdeb a ffurfioldeb yn bwysig - sydd yn y Pafiliwn fel arfer, meddai.

"Dydy'r canu gwerin anffurfiol â'r elfen o hwyl ddim wir yn bodoli yn y Pafiliwn. Felly mae'r gyngerdd yma yn ffordd ymlaen, ac os fyddwn ni'n gallu ysbrydoli rhai o'r gynulleidfa a'u tynnu nhw i mewn, bydde hynny'n grêt.

"Does dim byd elitaidd am ganu gwerin, yr holl bwynt yw i gymryd rhan. Os bydd rhywun yn mynd i ffwrdd o'r gyngerdd ac yn trefnu sesiwn yn y dafarn leol, neu'n mynd i ymchwilio i mewn i ganeuon traddodiadol, bydde hynny'n grêt.

"Mae 'na drysor yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r archifau yn Sain Ffagan, a phan ti'n mynd trwy'r holl stwff, mae'n 'neud i rywun sylweddoli mai haenen fach iawn sy'n cael ei chwarae yng Nghymru, mewn gwirionedd.

"Mae eisiau mwy o bobl i ail ddarganfod y caneuon a rhoi bywyd newydd iddyn nhw.

"A'r gobaith mawr ydy y byddwn ni ar lwyfan Maes B yn y dyfodol!"