Môn Mam cogyddion Cymru?

Image copyright Brat
Image caption Mae bwyd Tomos Parry wedi ennill edmygedd selebs fel Brad Pitt

Wedi gwneud enw i'w hun ym mwyty Kitty Fisher's yn Llundain mae'r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn wedi mynd â'i steil arbennig o goginio i'w fwyty ei hun, Brat, yn Shoreditch, gan ennill clod adolygwyr anodd-eu-plesio fel Jay Rayner yn y Guardian a Giles Coren yn y Times.

Ond mae'r gŵr o Landegfan bob amser yn croesawu cyfle i ddod nôl i'w gynefin i chwilio am ysbrydoliaeth ac mae'n edrych ymlaen i wneud hynny ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon ar 12 Mai.

"Bob tro dwi'n dod adre dwi'n cael ysbrydoliaeth newydd - fydda i ddim cweit yn aildanio'r batris achos mi fydd 'na ychydig o gymdeithasu siŵr o fod! Ond mae'n gyfle ei ailgysylltu gyda bwyd a chael syniadau newydd," meddai.

Mae Tomos yn ymuno efo Chris 'Foodgasm' Roberts i roi dangosiadau o goginio gyda thân o fewn waliau'r castell.

Ond bydd hefyd yn cymryd y cyfle i ymweld â rhai o'r llefydd bwyta safonol sydd wedi rhoi enw da am fwyd i'w ynys enedigol.

"Mi fyddai'n mynd i'r Sosban, yr hen Butchers, ym Mhorthaethwy - maen nhw'n ffrindiau da ac yn gwneud pethau grêt a mi wnai fynd draw i Marram Grass yn Niwbwrch tra dwi adre hefyd - mae'r hogiau fanna yn gwneud yn grêt," meddai Tomos.

"Maen nhw'n defnyddio cynnyrch lleol, yn tyfu llysiau eu hunain ac yn magu moch - mae'r cynnyrch yn safon uchel iawn."

Dyna yw athroniaeth Tomos, sy'n defnyddio'r dull Basgaidd o goginio dros dân.

Pysgodyn Image copyright Brat
Image caption Mae'n debyg mai hen air Saesneg lleol am bysgodyn lleden ydy 'brat' ond tybed faint o bobl Llundain sy'n gwybod ei fod hefyd yn air Cymraeg cefn gwlad am ffedog?!

"Mae coginio efo tân yn dangos y cynnyrch yn well ac mae'n cwsmeriaid ni hefyd yn gallu gweld i mewn i'r gegin, felly mae'n fwy spectacular iddyn nhw weld y bwyd yn cael ei goginio dros dân.

"Mae rhywun yn defnyddio ei bum synnwyr wrth goginio'r bwyd yn y ffordd yma," meddai.

Dechreuodd diddordeb Tomos mewn bwyd pan ddechreuodd weithio mewn bwytai wrth y môr ym Miwmares dros yr haf pan oedd yn 14 oed.

"Roeddan ni'n defnyddio cynnyrch lleol, mussels o'r Fenai, a llysiau o Hootons a jyst yn clywed oglau'r môr - o'n i ddim yn sylweddoli ar y pryd ond, jyst gweld y cychod pysgota ac yn y blaen - mae o i gyd wedi dylanwadu," meddai.

Mae'r pwyslais yn Brat ar ddefnyddio cynnyrch lleol ac mae Tomos yn cynnig rhan fach o Fôn ar ei fwydlen hefyd, sef wystrys o'r Fenai.

Biwmares
Image caption Profiad cynnar o weithio ym mwytai Biwmares ddechreuodd diddordeb Tomos Parry mewn coginio

"Fyddwn i'n licio defnyddio mwy o gynnyrch Ynys Môn ond mae'n anodd ei gael yma o'r ynys," meddai, "dydi'r infrastructure ddim yn ddigon da - mae pethau wedi bod yn mynd dramor i lefydd fel Sbaen nid o fewn Prydain - ond mae'n gwella ychydig, a dwi'n siarad efo Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwella'r sefyllfa.

"Dim ond un peth da allai ddod o Brexit - bod pobl yn dechrau edrych fwy i mewn i beth sydd ganddon ni yn lleol yma!"

Nôl i Fôn

Mae'r Sosban yn un o ddim ond saith bwyty yng Nghymru sydd â seren Michelin.

Un oedd yn gweithio yno gyda Stephen Stevens, cogydd a chyd-berchennog y Sosban gyda'i wraig Bethan, pan enillon nhw'r seren oedd Richard 'Pwdin' Holt sydd wedi dod adre i Fôn dros yr haf i gael hoe o fod yn Brif Chef Crwst ym mwyty Marcus Wareing, The Gilbert Scott (sydd â dwy seren Michelin).

Fel Tomos, gweithio ym mwytai lleol Môn oedd yr ysbrydoliaeth i Richard fynd yn gogydd hefyd - i ddechrau yn Marram Grass, lle mae wedi dod nôl i fod yn rhan o'r tîm dros yr haf.

Image copyright Richard Holt

Mae'r bwyty yn cael ei redeg gan y ddau frawd Ellis a Liam Barrie. Cyrhaeddodd Ellis rownd derfynol y Great British Menu 2017.

Aeth Richard i weithio yno yn syth ar ôl graddio mewn technoleg cerddoriaeth.

"O fewn mis i raddio ges swydd yn Marram Grass a nes i feddwl 'waw'," meddai Richard sydd o'r Talwrn yn wreiddiol.

"Nes i ddysgu mwy mewn mis yn Marram Grass na nes i mewn tair blynedd yn y brifysgol.

"Es i'n hooked ar ddysgu mwy wedyn.

"Ro'n i'n gwneud bob dim gynta' a wedyn nes i ffentro mewn i pwdins - roedd fel shining light yng nghornel y gegin.

"Wedyn wnes i'r cysylltiad fod gan Dad gwmni hufen iâ anferth sy'n gwneud hufen iâ dros y byd - fo bia'r unig machine yn y byd sy'n gwneud y Walls Vienetta!

"Roedd gan Mam fusnes cacennau hefyd ac mae gan fy anti ac yncl yn Cumbria siop siocled a dwi'n rili lyfio siocled ac wedi ennill dipyn o brofiad efo siocled erbyn hyn."

Er bod cael gwaith fel cogydd yn eitha' rhwydd, meddai Richard, mae gweithio ym mwytai gorau Llundain yn galed.

"Yn Gilbert Scott o'n i'n gweithio o chwech yn bora tan ddau y bora - mae'n anhygoel o tough, 'di o ddim yn iach," meddai.

Er bod swydd ar gael iddo gyda Marcus Wareing os yw am fynd nôl, meddai, mae'n dod adre i Fôn er mwyn aildanio'r batris dros yr haf.

"Pan es i i Lundain o'n i'n meddwl mod i wedi ffeindio cartref ond ar ôl dwy flynedd o'n i methu disgwyl i ddod nôl i Ynys Môn, o'n i jyst angen yr awyr iach.

"Nes i ailddisgyn mewn cariad efo'r lle - mae Afon Menai mor brydferth ac mae'r aer yn glir; mae'r aer fel dŵr yma - yn Llundain mae o mor drwm.

"Mae'n braf cael bod yn styc tu ôl i dractor bob hyn a hyn! Does 'na ddim gymaint o frys ag sydd 'na yn y ddinas a ti ddim yn teimlo fel dy fod di ddim ond yn un person mewn miliwn."

Image copyright Richard Holt
Image caption Un o greadigaethau Richard Holt

Ar ôl bod yn creu pwdinau fine dining mae Richard yn dyheu am wneud pethau mwy traddodiadol ac mae dylanwadau Cymreig ar ei fwyd hefyd - mae wedi creu caramel bara lawr a bara brith wedi ei wneud efo ffigys a malt extract, wedi ei weini gyda chaws glas Ynys Môn.

"Mae caws Ynys Môn yn anhygoel. Y caws glas yn arbennig - os 'dach chi'n gallu ffeindio caws glas o Ynys Môn 'dach chi'n sorted," meddai.

Y cam nesaf i Richard ydy mynd i galon y traddodiad patisserie yn Ffrainc - mae'n gobeithio symud i Baris i ddysgu'r grefft yn iawn ar ôl yr haf.

Cwestiwn amlwg efallai, ond sut gafodd o'r enw Richard 'Pwdin'?

"Mam sy'n galw fi'n Pwdin. Ond ddaru Marcus Wareing ofyn i fi 'What would pudding be in Welsh?' a nes i ddeud 'pwdin' - a ddaru o ddechra' ngalw i'n Pwdin hefyd!"

I weld rhai o'r creadigaethau sydd wedi rhoi ei enw i Richard 'Pwdin' ewch i'w ffrwd Instagram.

Pynciau Cysylltiedig