Cynlluniau yn Sanclêr yn hollti barn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cynlluniau am fwyty a chaffi yn Sanclêr yn hollti barn

8 Mai 2018 Diweddarwyd 21:28 BST

Gyda chynlluniau i godi bwyty McDonald's a chaffi Costa Coffee ar gyrion Sanclêr yn hollti barn yn lleol, roedd 60 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn y dref nos Fawrth.

Mae ymgyrch fawr wedi codi yn erbyn y datblygiadau, gyda phobl yn poeni am ordewdra, sbwriel, a'r effaith ar fusnesau eraill.

Ond mae eraill yn dweud nad oes sail i wrthwynebu. Aled Scourfield fu yno ar ran BBC Cymru.