Gareth Bale yn croesawu aelod newydd i'r teulu

Bale Image copyright XIN LI

Mae seren pêl-droed Cymru, Gareth Bale, wedi dod yn dad am y trydydd tro.

Fe gyhoeddodd Bale, sy'n 28 oed, y newyddion ar ei gyfrif Twitter gan ddatgelu mai enw'r bachgen bach a anwyd ar 8 Mai, ydy Axel Charles Bale.

Mae gan Gareth a'i bartner, Emma Rhys-Jones, ddwy o ferched yn barod - Alba Violet sy'n bump oed, a Nava Valentina sy'n ddwy.

Image copyright Quality Sport Images
Image caption Bale yn chwarae yn erbyn Barcelona yn y Camp Nou dros y penwythnos

Mae Bale a'i gyd-chwaraewyr yn Real Madrid yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Lerpwl yn Kiev ar 26 Mai.

Image copyright David M. Benett
Image caption Bale gyda'i bartner, Emma Rhys-Jones