Morgannwg ar ei hôl hi ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Caint

Darren Stevens Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd Darren Stevens i gymryd chwe wiced i Gaint

Fe wnaeth y bowliwr Darren Stevens ddinistrio batwyr Morgannwg gan gymryd chwe wiced wrth i'r Cymry fynd o 57-0 i fod allan yn llwyr am 94 rhediad.

Ond fe lwyddodd i Timm van der Gugten daro 'nôl gyda chwe wiced ei hun wrth i Forgannwg gadw Caint i sgôr o 163-9.

Roedd Stevens a Matt Henry - gymrodd bedair wiced arall Morgannwg - yn rheoli'n llwyr mewn amodau cymylog ar y diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd.

Roedd Caint felly'n arwain o 69 rhediad ar ddiwedd y dydd, gydag un wiced yn weddill yn eu batiad cyntaf.

Pynciau Cysylltiedig