Pump o wyth prifysgol Cymru'n colli myfyrwyr

Myfyrwyr Image copyright Clerkenwell

Mae pump o wyth prifysgol Cymru wedi gweld gostyngiad yn nifer eu myfyrwyr dros y tair blynedd diwethaf, a dau wedi cwympo bron i chwarter.

Ers 2013/14 mae nifer y myfyrwyr ym mhrifysgolion Glyndŵr Wrecsam ac Aberystwyth wedi cwympo 24%.

Dywedodd pennaeth y corff sy'n cyllido addysg uwch bod prifysgolion Cymru "mewn marchnad gystadleuol iawn" ble roedd cael gwared ar gyfyngiadau ar recriwtio myfyrwyr yn Lloegr wedi cael effaith drwyddi draw.

Dros yr un cyfnod fe wnaeth cofrestriadau i Brifysgol Abertawe godi 29%.

'Marchnad gystadleuol'

Yn ôl Dr David Blaney, prif weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, roedd sector y prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig yn anwadal.

"Mae prifysgolion yng Nghymru yn rhan o farchnad, yn bennaf gyda Lloegr ond a dweud y gwir y DU ac yn rhyngwladol hefyd, ac mae'n farchnad gystadleuol iawn," meddai.

"Felly'r hyn rydyn ni wedi gweld, yn arbennig yn Lloegr, yw eu bod wedi cael gwared ar gyfyngiadau niferoedd myfyrwyr, sy'n golygu bod rhai sefydliadau yn Lloegr - y rhai cryfaf yn y farchnad yn benodol - wedi tyfu ac mae hynny wedi cael effaith ar draws yr holl sector."

Dywedodd bod myfyrwyr bellach yn gwneud penderfyniadau mwy gofalus gan ystyried y neges am wahanol sefydliadau sy'n cael ei chyfleu ar wefannau cymdeithasol.

Cofrestrodd 19,160 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016/17 ac maen nhw'n anelu at gael 20,000 erbyn dathlu eu canmlwyddiant yn 2020.

Dywedodd y dirprwy is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies bod profiad y myfyriwr yn "allweddol", a gyda myfyrwyr yn talu miloedd mewn ffioedd am eu cyrsiau mae cyflogadwyedd yn hollbwysig hefyd.

"Ni wedi bod yn llwyddiannus iawn oblegid mae'r cyrsiau sydd gyda ni, maen nhw yn relevant," meddai.

"Mae'r athrawon sydd gyda ni, maen nhw uwchlaw, uwchben eu disgyblaeth nhw ac felly mae hyn yn rhywbeth sydd yn ddeniadol iawn i fyfyrwyr."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r Athro Iwan Davies yn dweud ei bod yn bwysig bod arian i fuddsoddi yn y sector prifysgolion yng Nghymru

Gwelodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam gwymp yn nifer eu myfyrwyr o 9,535 ar ei uchaf yn 2011/12 i 6,415 yn 2016/17.

Dywedodd llefarydd bod "newid cyfeiriad strategol" wedi bod yn ystod y cyfnod gan symud i ffwrdd o recriwtio dramor.

"Yn 2013/14 roedd myfyrwyr tramor yn 28% o'n cofrestriadau, erbyn 2016/17 roedd y ffigwr yn llai na 9% (cwymp o bron i 2,000 o fyfyrwyr) a dyma'r rheswm am y cwymp yn nifer y cofrestriadau," meddai'r llefarydd.

"Yn ystod yr un cyfnod, roedd cofrestriadau myfyrwyr o Gymru wedi cynyddu o 42% i 62% sy'n amlygu llwyddiant ein newid strategol."

'Cyfnod heriol'

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod patrymau recriwtio wedi eu heffeithio gan gynnydd ffioedd rhai blynyddoedd yn ôl.

"Roedd cyflwyno ffioedd dysgu uchel yn 2012 yn golygu newid sylfaenol i'r sector gan arwain at gofrestriadau hanesyddol uchel ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011 - grŵp gariodd drwyddo tan 2013/14," meddai llefarydd.

"Fel prifysgol, rydyn ni'n dod allan o gyfnod heriol yn gryfach, yn buddsoddi'n strategol mewn adnoddau dysgu, ymchwil a llety tra'n gwella ein henw ar gyfer rhoi profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr."

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Fe wnaeth nifer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ostwng 24.3% rhwng 2013/14 a 2016/17

Dywedodd Dr Blaney nad oedd pryderon am dangyllido'r system Gymreig o'i chymharu gyda Lloegr wedi diflannu'n llwyr.

Fe fydd newid i gyllid myfyrwyr yng Nghymru o'r hydref yn golygu cael gwared ar y grant o £4,954 tuag at ffioedd dysgu a chynnig grant o £1,000 i bawb ar gyfer costau byw, i fyny at tua £8,000 i'r myfyrwyr tlotaf.

'Anghyfartalwch'

Yn ôl Dr Blaney bydd y newidiadau, yn dilyn adroddiad gan yr Athro Ian Diamond, yn arwain at ryddhau mwy o adnoddau i brifysgolion.

"Mae yna dal rhywfaint o anghyfartalwch o safbwynt yr adnoddau sydd yn cael eu buddsoddi yn y system yng Nghymru o'i gymharu gyda'r system yn Lloegr," meddai.

"Bydd y sefyllfa yn sgil Diamond yn gwneud y cydbwysedd yna yn sylweddol well ac erbyn diwedd y cyfnod o gyflwyno Diamond, sydd yn sawl blwyddyn, fe fyddwn ni mewn sefyllfa lawer mwy cyfartal gyda'r math o fuddsoddiad sydd yn cael ei wneud yn Lloegr."

"Ar hyn o bryd mae modd dadlau bod gan y sector yng Nghymru lai o adnoddau na'r sector yn Lloegr.

"Felly mae hynny'n golygu eu bod nhw'n gorfod gweithio'n fwy caled i edrych yn ddeniadol ac mae hynny yn rhywbeth maen nhw'n gwneud."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol