Tîm o ferched i ddyfarnu gêm dynion am y tro cyntaf

Cheryl Foster Image copyright @Cheryl_Foster8
Image caption Mae Cheryl Foster wedi ennill 63 o gapiau dros dîm merched Cymru

Bydd tîm o ferched yn dyfarnu gêm bêl-droed dynion am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr mewn ffeinal cwpan yn y gogledd ddydd Sadwrn.

Cheryl Foster, Laura Griffiths, Siân Williams a Charlie Smith fydd y tîm dyfarnu ar gyfer rownd derfynol Cwpan Undebol Huws Gray yn Rhuthun.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r tîm dyfarnu cyfan ar gyfer gêm dynion yng Nghymru a Lloegr fod yn fenywod.

Bydd y gic gyntaf yn y gêm rhwng Gresffordd a'r Fflint am 14:30.

Image copyright @Cheryl_Foster8
Image caption Cheryl Foster (ail o'r chwith) oedd y dyfarnwr yn ffeinal Cwpan Merched Cymru yn 2016

Fe wnaeth Ms Foster - cyn-chwaraewr rhyngwladol wnaeth ennill 63 o gapiau dros Gymru - ddechrau dyfarnu ar ôl ymddeol o bêl-droed ar y lefel uchaf.

Hi oedd y dyfarnwr yn ffeinal Cwpan Merched Cymru yn 2016, ac mae hi hefyd yn aml yn llumanwr yng ngemau Uwch Gynghrair Cymru.

"Rydw i'n falch iawn o gael y cynnig i wneud y ffeinal ac mae'n ddarn o hanes i'r holl ferched, ond mae'n rhaid i ni ddeall mai'r trydydd tîm ydyn ni," meddai Ms Foster o Fangor.

"Oll rydyn ni eisiau ei wneud ydy dyfarnu i safon uchel - mae gêm dawel i ni yn gêm dda i'r chwaraewyr."

Pynciau Cysylltiedig