Anrhydeddau'r Orsedd: Y gogledd

Anrhydeddau'r Orsedd Image copyright Iolo Penri
Image caption Yr Orsedd ar faes Eisteddfod Môn 2017

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddau yn 2018.

Mae dros 40 ar y rhestr eleni, sydd medd yr Orsedd "yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o'r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Dyma'r rhai o'r gogledd fydd yn cael eu hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd fis Awst:

GWISG WERDD

Eiddwen Jones

Ym myd addysg mae cefndir Eiddwen Jones, Abergele, gyda'i chyfraniad yn helaeth ac yn eang dros y blynyddoedd. Mae ganddi ddiddordeb ac arbenigedd ym maes dysgu Cymraeg, a chyflwynodd y Gymraeg fel ail iaith ar batrwm Cynllun Canada, cyn mynd ati i hyfforddi athrawon yn y maes. Bu galw mawr ar ei harbenigedd yn rhyngwladol, ac fe gyflwynodd bapurau ar dechnegau dysgu ail iaith mewn amryw o gynadleddau. Mae hefyd yn awdur pum nofel hanesyddol wedi'u gosod yn Sir y Fflint a Threfaldwyn.

Michael Lloyd Jones

Image caption Fel Mici Plwm neu Plwmsan mae Michael Lloyd Jones fwyaf adnabyddus

Mae Michael Lloyd Jones, Pwllheli yn llawer mwy adnabyddus fel Mici Plwm neu Plwmsan - sef un hanner y ddeuawd gomedi eiconig, Syr Wynff a Plwmsan, sêr rhaglen gomedi unigryw i blant sy'n parhau'n glasur Cymraeg hyd heddiw. Ef oedd un o'r troellwyr disgiau proffesiynol cynharaf yng Nghymru gyda Disgo Teithiol Mici Plwm, ac mae hefyd wedi gweithio fel cyflwynydd ac fel actor ar lwyfan, radio, teledu a ffilm dros y blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, bu'n gweithio yng Nghanolfan Heneiddio'n Dda Gwynedd a Môn.

Ifan Alun Puw

Bu Alun Puw, Llanuwchllyn yn weithgar yn ei fro am gyfnod maith, gan roi blynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Urdd, yn arwain adrannau ac yn hyfforddi plant mewn sawl maes. Ers ei ymddeoliad, bu hefyd yn un o gefnogwyr mwyaf brwd Mudiad y Ffermwyr Ifanc, gan gymryd pob cyfle i gynnig cymorth ar lawr gwlad. Bu'n Brif Stiward pan ddaeth y Brifwyl i Feirion yn 2009, a rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol fel un o gydlynwyr y Babell Lên, gan ymddeol yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd.

Dennis Williams

Ers blynyddoedd, cysylltir enw Dennis Williams, Llanfairpwll gyda'r byd bandiau pres, a hawdd yw deall pam wrth ystyried ei gyfraniad anferthol i'r maes drwy gydol ei yrfa. Bu'n arwain Band Pres Porthaethwy am flynyddoedd, a bu'n arweinydd Seindorf Arian Deiniolen am gyfnod. Ond mae Dennis hefyd yn rhan bwysig o'i gymuned, a'i gyfraniad fel cyn-Gadeirydd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll a Chadeirydd y Cyngor Bro lleol ymysg pethau eraill yn dangos ei ymroddiad i'w ardal.

GWISG LAS

Haydn Edwards

Cyn ymddeol, bu Haydn Edwards, Llangefni yn Bennaeth Coleg Menai am flynyddoedd. Mae hefyd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i nifer o sefydliadau yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, a'i weledigaeth a'i arweiniad ef fu'n gyfrifol am sicrhau Cronfa Leol mor llewyrchus. Mae'n ddyn o ddiddordebau amlochrog, o hanes rheilffyrdd i rygbi, ac yn ŵr bonheddig a chydwybodol dros ben.

Gwyn Ellis Griffiths

Gwyn Ellis Griffiths, Bangor oedd y parafeddyg gweithredol cyntaf yng Ngwynedd, a chyda Heddlu Gogledd Cymru bu'n gyfrifol am ddatblygu'r gwasanaeth parafeddygon i wasanaeth yr Ambiwlans Awyr. Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i'r gwasanaeth ambiwlans, ac mae'n parhau i gefnogi a mentora parafeddygon sy'n awyddus i symud ymlaen i lefel uwch. Bu'n aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis am flynyddoedd lawer, ac mae'n weithgar iawn gydag amryw o elusennau gan gynnwys ymchwil canser, Tîm Irfon a Hawl i Fyw.

Linda Tomos

Image caption Linda Tomos yw prif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol

Bu Linda Tomos, Dolgellau ar flaen y gad ym maes diwylliant er lles Cymru a'i phobl ers nifer o flynyddoedd, gyda'i phrofiad a'i brwdfrydedd dros hybu treftadaeth yn gaffaeliad i Gymru gyfan. Hi yw'r ferch gyntaf i arwain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda'i hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau difreintiedig ar draws Cymru'n arwydd pendant o'i hawydd personol i sicrhau bod pobl ym mhob rhan o'r wlad yn ymwybodol a gwerthfawrogol o'n diwylliant. Bu'n gweithio i Lywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, cyn ymuno â'r Llyfrgell.