Adran Dau: Chesterfield 1-0 Casnewydd

Aaron Collins o Gasnewydd yn cael ei herio gan Laurence Maguire Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Aaron Collins o Gasnewydd yn cael ei herio gan Laurence Maguire

Mae Casnewydd yn parhau yn yr 11fed safle Adran Dau wedi colled oddi cartref yn erbyn y tîm sydd ar waelod yr adran.

Casnewydd gafodd cyfle gorau'r hanner cyntaf i sgorio ond fe gafodd ergyd Padraig Amond ei glirio oddi ar y lein.

Peniad Kristian Dennis wedi 70 munud wnaeth sicrhau'r pwyntiau i Chesterfield, sydd eisoes wedi colli'r frwydr i aros yn yr adran.

O ganlyniad fe gollodd Casnewydd gyfle i sicrhau tair buddugoliaeth o'r bron ar ôl curo Accrington Stanley a Chaergrawnt yr wythnos ddiwethaf.

Byddai buddugoliaeth nos Fawrth hefyd wedi sichrau lle yn hanner uchaf y tabl.