Diflaniad Hollie Kerrell o Bowys: Canfod corff

Hollie Kerrell Image copyright Llun teulu
Image caption Cafodd Hollie Kerrell ei gweld ddiwethaf yn ei chartref yn Nhrefyclo ddydd Sul

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi canfod corff wrth chwilio am ddynes 28 oed o Bowys y maen nhw'n amau gafodd ei llofruddio.

Cafodd dyn 35 oed ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o lofruddio Hollie Kerrell o Drefyclo.

Fe gafodd ei gweld ddiwethaf yn ei chartref ar ddydd Sul, 22 Ebrill, a does neb wedi clywed oddi wrthi ers hynny.

Dyw'r corff ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol, ond mae'r heddlu wedi rhoi gwybod i'r crwner am y farwolaeth.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Cummins: "Mae ein meddyliau gyda'i theulu, sy'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar yr amser trist iawn yma."

Mae'r dyn gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa ac yn cael ei gwestiynu gan heddweision.

Mae'r llu wedi cadarnhau hefyd nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond maen nhw'n annog unrhyw un welodd Ms Kerrell ar ôl 17:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â nhw.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol