Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad â char

A468 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A468 ym Machen Isaf

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Sir Caerffili fore Iau.

Cafodd y gwasanaethau eu galw i'r digwyddiad ar yr A468 ym Machen Isaf am 07:50.

Bu farw'r dyn oedd yn gyrru'r beic modur ac mae'r dyn oedd yn gyrru'r car wedi'i gymryd i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, ond does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.

Dywedodd yr heddlu bod y gwasanaeth tân wedi gorfod defnyddio offer torri i ryddhau un person o'u car.

Mae'r ffordd ar gau rhwng Rhiwderyn a'r troad am Draethen tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad.

Pynciau Cysylltiedig