O flaen eu gwell

Hawdd yw anghofio weithiau mai peth cymharol newydd yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig. Mae cartref y Llys yn neuadd hanesyddol swydd Middlesex a'r gynnau ac arfbeisiau traddodiadol yn drewi o hanes ond cwta ddeng mlynedd yw oed y Llys mewn gwirionedd. Cafodd y ddeddfwriaeth i'w greu, ei chymeradwyo yn 2005 a daeth y llys i fodolaeth rhai blynyddoedd wedyn yn 2009.

Mewn gwirionedd, mae pwerau'r llys pan ddaw hi at faterion cyfansoddiadol yn gymharol gyfyng o'u cymharu â llysoedd cyfatebol mewn gwledydd a chyfansoddiadau ysgrifenedig. Prin yw'r cyfreithiau yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, nad ydynt yn wynebu rhyw fath o her gyfansoddiadol yn y llysoedd.

O dan ein trefniant ni mae heriau o'r fath yn amhosib yn achos deddfwriaeth San Steffan. Sofraniaeth seneddol wedi'r cyfan yw egwyddor sylfaenol y 'Westminster system'. Mae'r sefyllfa'n wahanol pan ddaw hi at ddeddfau'r seneddau datganoledig. Yn wir datganoli oedd un o'r rhesymau y sefydlwyd y Goruchaf Lys yn y lle cyntaf. Mae gwefan y llys yn esbonio'n bellach.

Mae'r Goruchaf Lys yn penderfynu ar faterion datganoli hefyd, hynny yw, pa un ai a yw'r awdurdodau datganoledig gweithredol a deddfwriaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gweithredu neu'n bwriadu gweithredu o fewn eu pwerau, ynteu a ydynt wedi methu cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd arall a orfodwyd arnynt.

Y Twrne Cyffredinol sydd â'r hawl i gyfeirio deddfwriaeth ddatganoledig at y llys ar ran Llywodraeth y DU ac mae wedi gwneud hynny yn achos y mesurau Cymreig ac Albanaidd i ymgorffori corpws deddfwriaeth Ewrop ar lyfrau statud y ddwy wlad.

Rhain yw'r mesurau a gyflwynwyd yng Nghaerdydd a Chaeredin i rwystro Llywodraeth y DU rhag defnyddio Brexit i fachu pwerau yn ôl yn y meysydd datganoledig. Mae Downing Street, wrth gwrs, yn gwadu mai dyna yw'r bwriad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am i'r Llys farnu bod y ddwy ddeddf yn anghyfansoddiadol. Gallai penderfyniad i'r gwrthwyneb esgor ar argyfwng cyfansoddiadol gyda senedd San Steffan yn gorfodi deddfwriaeth ar y ddwy wlad yn groes i ddymuniad eu seneddau.

Pwy sy'n debyg o ennill felly? Wel, yn ôl y rheiny sy'n deall y pethau hyn, am unwaith mae achos Cymru yn gryfach nac un yr Alban.

Yn wir, roedd Llywydd Senedd yr Alban, aelod Llafur, fel mae'n digwydd, o'r farn bod Holyrood wedi ymddwyn yn anghyfansoddiadol trwy gymeradwyo'r mesur tra bod Elin Jones wedi barnu i'r gwrthwyneb yn achos Cymru.

Y rheswm am hynny yw bod setliad cyfansoddiadol yr Alban yn nodi'n benodol mai mater i San Steffan yw'r berthynas rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n wir yng Nghymru hefyd - ond dim ond ers dechrau'r mis hwn pan ddaeth Deddf Cymru (2017) i rym.

Cafodd y ddeddf fydd yn cael ei hystyried gan y Goruchaf Lys ei chymeradwyo cyn i hynny ddigwydd. Union ystyr pwerau Deddf Llywodraeth Cymru (2006) sy'n berthnasol yn fan hyn felly. Mae'r Goruchaf Lys wedi barnu bod y pwerau hynny'n rhai sylweddol ac eang mewn achosion blaenorol a gallasai'r cynseiliau hynny brofi'n bwysig.

Beth bynnag yw'r penderfyniad ar ddiwedd y dydd, mae'n eironig bod llusgo traed gan Aelodau Seneddol unoliaethol eu hanian yn ôl yn 2005 wedi gadael Cymru â gwell law o gardiau na'n cefndryd Albanaidd. Nid dyna oedd eu bwriad.