Pro14: Southern Kings 12-45 Gleision

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae'r Gleision wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf gyda buddugoliaeth swmpus 45-12 oddi cartref yn erbyn Southern Kings.

Llwyddodd Alex Cuthbert, Seb Davies, Josh Turnbull, Willis Halaholo a Kirby Myhill i groesi cyn yr egwyl.

Fe wnaeth Blaine Scully ac ail gais i Myhill ychwanegu at y cyfanswm, gyda Jarrod Evans yn llwyddo i drosi pump.

Cais yr un i Ntabeni Dukisa a Lindokuhle Welemu oedd ymateb y tîm cartref.

Eu gêm nesaf fydd yn erbyn Pau ddydd Sadwrn yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop.