Cyhuddo dau arall wedi ymosodiad ar Ifan Owens yn Aberystwyth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae dau ddyn arall wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiad ar fyfyriwr yn Aberystwyth ar 14 Ionawr.

Cafodd Ifan Owens, 19 o Gaerdydd, ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ar Y Stryd Uchel.

Mae Andrew Raymond John Scott, 24 oed, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, ac o fod a chanabis yn ei feddiant.

Mae Lee Andersen-Warnes, 20, wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.

Roedd y ddau wedi eu cyhuddo i ymddangos ger bron Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Ddoe fe wnaeth dau ddyn arall ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlfford, hefyd mewn cysylltiad â'r ymosodiad.

Fe fydd David Lloyd, 25 oed, a Billy Michael Valentine, 19, yn wynebu achos llawn yn Llys y Goron Abertawe ar 11 Mai.

Fe wnaeth Ifan Owens ddeffro o goma ar 11 Chwefror.