Cyhuddo dau wedi ymosodiad ar Ifan Owens yn Aberystwyth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o ymosod yn dilyn digwyddiad yn Aberystwyth ar 14 Ionawr.

Cafodd Ifan Owens, 19 o Gaerdydd, ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ar Y Stryd Uchel.

Fe wnaeth David Lloyd, 25 oed, a Billy Michael Valentine, 19, ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd i wynebu'r cyhuddiadau ddydd Gwener.

Byddan nhw'n gwneud eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 11 Mai.

O'r tri dyn arall gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, mae un yn parhau ar fechnïaeth, tra bod dau wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.