Ymosodiad Abercynffig: Anafiadau'n 'peryglu bywyd' dyn
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad difrifol yn ne Cymru lle cafodd dyn anafiadau "sy'n peryglu ei fywyd".
Cafodd y dyn 18 oed ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Pen-y-bont yn Abercynffig am tua 20:00 ar 12 Ebrill, a chafodd ei gludo i'r ysbyty ym Mhen-y-bont gydag anafiadau i'w ben.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 18 oed a llanc 17 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd yr ymosodiad neu oedd yng nghlwb cymdeithasol Abercynffig ar noson y digwyddiad all gynorthwyo'r ymchwiliad.