Disgyblion Rhostryfan yn profi nerth y rhyngrwyd
- Cyhoeddwyd
Pan benderfynodd athrawon ysgol wledig yng Ngwynedd ddysgu'r plant am bŵer y rhyngrwyd, go brin y bydden nhw wedi disgwyl y fath ymateb.
Er mwyn dangos i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Rhostryfan y peryglon o roi manylion personol ar y we, ac yn arbennig ar wefannau cymdeithasol fel Facebook, cafodd nodyn gan y plant gydag apêl i'w rannu mor helaeth â phosib ei bostio.
Mae'r neges bellach wedi'i rannu gan dros 1,000 o bobl, ac wedi'i gweld gan lawer, lawer mwy.
"Mae'r wers am ddiogelwch ar y we wedi bod yn effeithiol a buddiol iawn i'r plant," meddai Trystan Larsen, prifathro'r ysgol.
"Yn syml, y wers yn wreiddiol oedd peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol ar y we, achos 'sda ni ddim clem lle ma' nhw'n mynd a 'sda ni ddim rheolaeth lle ma' nhw'n mynd.
"O fewn 24 awr, roedd dros 62,000 wedi gweld a rhannu'r neges, gyda phobl yn ymateb o wledydd fel Awstralia, Seland Newydd, America, Canada, Lebanon, Tsiena, India, Ariannin, Periw, Gwlad Belg.
"Ond ar lefel mwy personol, roedd y neges wedi cyrraedd fy ngwraig i ar Facebook, cyn i mi hyd yn oed bod yn ymwybodol ohono!
"Erbyn rŵan, dau ddiwrnod yn ddiweddarach, mae fyny i bron 100,000 o bobl... erbyn i chi gyhoeddi'r stori 'ma, fydd o wedi newid eto peryg!
"Mae'r plant wedi dysgu llawer o'r profiad, ac wrth gwrs, dyna oedd ei brif bwrpas!"
Mae Plant Blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn dysgu am ddiogelwch ar y Wê gyda Miss Hughes . Tybed fedrwch chi rannu hwn a nodi...
Posted by Cyfeillion Ysgol Rhostryfan on Tuesday, April 10, 2018