Teyrngedau i'r actor 'hynod ddawnus' Alex Beckett
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i actor o Sir Gaerfyrddin sydd wedi marw'n sydyn.
Roedd Alex Beckett yn 35 oed, ac yn fwyaf enwog am ei ran yn portreadu'r cymeriad Barney Lumsden yng nghomedïau'r BBC, Twenty Twelve a W1A.
Disgrifiodd ei asiant, Gavin Denton-Jones, ef fel "dyn ardderchog ac actor hynod ddawnus".
Dywedodd Shane Allen, rheolwr comisiynu comedi'r BBC: "Rydym wedi ein llorio â'r newyddion am farwolaeth Alex.
"Roedd e'n seren gomedi cynhyrchiol, amryddawn oedd wedi ennill parch mawr, ac roedd ei bortread o Barney Lumsden yn Twenty Twelve a W1A yn allweddol i'w llwyddiant.
"Mae'n meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon."
Dywedodd National Theatre Wales mewn datganiad bod Alex Beckett yn "bersonoliaeth fagnetig, ar y llwyfan ac oddi arno".
Ychwanegodd y datganiad bod ganddo "dalent aruthrol" a'i fod yn aml yn "gwneud i ni a'n cynulleidfaoedd rowlio chwerthin".
'Cyd-actor a chyfaill'
Roedd Alex Beckett ar hyn o bryd yn perfformio yn nrama lwyfan The Way of The World yn theatr y Donmar Warehouse yn Llundain.
Mewn datganiad, dywedodd penaethiaid y theatr, Josie Rourke a Kate Pakenham: "Rydym wedi'n tristáu'n arw o golli ein ffrind annwyl a'r actor gwych, Alex Beckett.
"Mae pawb yn Donmar a The Way of the World wedi'n llorio â'r newyddion trist hwn.
"Rydym wedi penderfynu gohirio gweddill perfformiadau'r wythnos, fel arwydd o barch i Alex, ac i roi peth amser i'r cwmni oedd oll yn caru Alex fel cyd-actor a chyfaill."