Faint o achos dathlu yw miliwn o ddysgwyr Cymraeg?

Image copyright Duolingo
Image caption Mae'r ffaith fod nifer yn dysgu Cymraeg drwy ap yn galonogol, ond a allai fod yn gamarweiniol?

Gyda tharged gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 roedd rhai'n dathlu'n gynnar pan gyhoeddodd cwmni Duolingo bod miliwn o bobl wedi cofrestru i ddysgu'r iaith ar eu ap o fewn dwy flynedd.

Ond dydi hi ddim mor syml â hynny, yn ôl Dr Peredur Webb-Davies, darlithydd mewn ieithyddiaeth a dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor.

"Mae'n galonogol ac yn newyddion da wrth gwrs," meddai.

"Ond mae'n hawdd iawn gwasgu botwm a chofrestru ar gyfer dysgu iaith ar yr ap, p'run ai ydych chi'n mynd unrhyw bellter ynddo fo sy'n beth arall.

"Byddai'n ddefnyddiol i Duolingo ddweud faint sy'n parhau gyda'r broses o ddysgu'r Gymraeg.

"Peth arall i'w nodi ydy fod targed y llywodraeth, am wn i, yn golygu miliwn o siaradwyr yng Nghymru, tra bod defnyddwyr Duolingo yn gallu bod unrhyw le yn y byd - sydd wrth gwrs yn beth nodedig ynddo'i hun!"

Image copyright Chris Peel
Image caption Mae angen cyd-destun cymdeithasol er mwyn i bobl ddefnyddio iaith, meddai Dr Peredur Webb-Davies

I roi'r ffigyrau sy'n cael eu dyfynnu gan Duolingo yn eu cyd-destun mae nifer tebyg i'r Gymraeg (1.3m) yn dysgu Esperanto drwy'r ap, iaith gafodd ei chreu yn 1887, meddai'r cwmni.

Mae miloedd hefyd yn defnyddio'r ap i ddysgu ieithoedd ffug Klingon a High Valyrian o'r cyfresi teledu Star Trek a Game of Thrones.

Mae llai na'r Gymraeg, 799,000, yn dysgu Hwngareg ar yr ap ond mae gan yr iaith 13 miliwn o siaradwyr.

562,000 sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn ôl ffigyrau Cyfrifiad 2011.

Dim cynnydd drwy'r system addysg

Felly faint o gysylltiad sydd rhwng faint sy'n dysgu iaith a'i gobaith o barhau?

Mae'r ateb yn gymhleth, meddai Dr Webb-Davies.

"Mi ddylai bod pob plentyn ysgol dan 16 oed yn gallu siarad dipyn o Gymraeg ond llai na hanner sy'n dweud eu bod nhw yn ôl ffigyrau Cyfrifiad 2011 - tua 40%," meddai.

"Os ydyn ni'n edrych ar y data o'r Cyfrifiad o ran oedran tu hwnt i'r ysgol, dros 19 oed, mae nifer y bobl sy'n dweud eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg yn mynd i lawr i tua 19%.

"Felly mae 'na ostyngiad mawr yn nifer y bobl sy'n dweud eu bod nhw'n medru siarad Cymraeg o'r adeg maen nhw'n yr ysgol i'r munud maen nhw'n gadael yr ysgol.

"Yr awgrym wedyn ydy bod nifer yn stopio ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, efallai achos nad oes ganddyn nhw'r cyfleoedd i barhau i'w defnyddio hi tu hwnt i'r ysgol.

"Tua 20% o bobl Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg a dydi'r system addysgu ddim fel pe bai'n cynyddu'r nifer yna."

Yn ôl academwyr, mae angen i siaradwyr fod mewn cyd-destun cymdeithasol sy'n rhoi amlygiad [exposure] i iaith cyn bod pobl yn ei defnyddio.

"Dyna pam mae'r llywodraeth wedi bod yn cynnal cynlluniau i drïo cynyddu amlygiad pobl tuag at y Gymraeg yn y gymuned," meddai Dr Webb-Davies.

Dywed fod faint o bobl sy'n siarad iaith yn un elfen bwysig o sicrhau ei pharhad - mae'n amlwg bod iaith gyda 10 miliwn o siaradwyr yn fwy tebyg o barhau na iaith gyda saith siaradwr.

Ond mae'r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yn ffactor bwysicach wrth ystyried parhad iaith.

Duolingo yn ennill bri i'r iaith

Ond elfen bwysicach na faint o ddysgwyr ydy faint o fri [prestige] sydd gan yr iaith, meddai arbenigwyr, sef bod pobl yn ei gweld hi fel rhywbeth deniadol sydd â statws.

"Am ganrifoedd doedd gan y Gymraeg ddim bri cymdeithasol yng Nghymru heb sôn am ym Mhrydain," meddai Dr Webb-Davies.

"Dim ond o fewn yr 20fed ganrif ac i mewn i'r ganrif yma mae hi wedi codi o ran bri.

"Y ffordd rydych chi'n mesur bri ydy bod iaith yn cael ei defnyddio yn lefelau uchaf cymdeithas, ei bod yn iaith mae pobl eisiau ei dysgu ac yn un mae pobl yn uniaethu efo hi."

A dyma sy'n arwyddocaol am ffigyrau Duolingo - mae'r ffaith eu bod yn dweud bod miliwn o bobl yn dysgu drwy eu ap yn arwydd o fri'r iaith, sydd yn uwch heddiw nag oedd hi ganrif yn ôl, meddai Dr Webb-Davies.

"Rydw i'n dyfalu bod lot o bobl sydd wedi cofrestru efo Duolingo ddim yn byw yng Nghymru, ddim ag unrhyw gysylltiad uniongyrchol efo'r Gymraeg neu efo Cymru ond jyst efo diddordeb ac mae hynny yn ei hun yn arwydd positif," meddai.

"Achos be' rydych chi eisiau ydy i bobl fod eisiau dysgu'r iaith ac os ydyn nhw eisiau ei dysgu hi maen nhw eisiau ei defnyddio hi.

"Dwi'n amau bod lot o bobl sydd wedi mynd drwy'r system addysgu yng Nghymru ond yn methu siarad Cymraeg ar y diwedd yn bobl oedd ddim eisiau ei dysgu hi, neu ddim wedi cael boddhad o'i dysgu hi, ac felly mae llai o ysgogiad iddyn nhw ei defnyddio hi wedyn.

"Mae unrhyw broses sy'n codi bri a phoblogrwydd ac amlygrwydd y Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt yn gam da tuag at ei gwneud yn iaith atyniadol y bydd pobl nid yn unig eisiau ei dysgu, ond hefyd eisiau ei defnyddio."

Mae Cymru Fyw wedi cysylltu â Duolingo i gael mwy o wybodaeth am eu ffigyrau ond heb gael ymateb eto.