Ffair Lyfrau Llundain yn gyfle i 'godi proffil Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae cynnwys Cymru fel un o'r gwledydd dan sylw mewn ffair lyfrau yn "gyfle i godi proffil Cymru ym myd y llyfrau", yn ôl awdures.
Bydd Cymru'n cael sylw yn Ffair Lyfrau Llundain eleni, a hynny am y tro cyntaf mewn degawd.
Mae'r ffair yn un o ddigwyddiadau cyhoeddi llenyddol mwyaf y byd, ac yn gyfle i arddangos cynnyrch i gynulleidfa ryngwladol.
Dywedodd Bethan Gwanas bod y digwyddiad yn gyfle i ddangos bod "llyfrau gwych ac awduron gwerth chweil" yng Nghymru.
'Codi proffil'
Bydd awduron a chyhoeddwyr o Gymru yn rhan o ddigwyddiadau'r ŵyl, sy'n cael ei chynnal rhwng 10-12 Ebrill.
Bydd stondin Gymreig yn cael ei chreu, gyda'r gobaith o roi cyfle i ymwelwyr ac unigolion o fewn y diwydiant gwrdd â thrafod gyda rhai o gyhoeddwyr a sefydliadau llenyddol Cymru.
Bydd seminarau a thrafodaethau gyda ffocws Cymreig hefyd yn cael eu cynnal, ac fe fydd Bethan Gwanas yn un o'r rhai fydd yn cymryd rhan.
"Dyma'r tro cyntaf erioed i mi gael gwahoddiad i siarad am fy llyfrau dros Glawdd Offa felly mae'n codi fy nghalon bod yma gyfle o'r diwedd i dynnu sylw at nofelau Cymraeg yn ogystal â llyfrau Saesneg o Gymru.
"Mae'n gyfle i godi'n proffil yn y byd llyfrau, i ddangos bod 'na lyfrau gwych ac awduron gwerth chweil yng Nghymru hefyd.
"Dwi'n gobeithio y gallwn ni agor llygaid pobl i'r ffaith bod y Gymraeg yn iaith fyw, fywiog, berthnasol."
'Digonedd i'w ddathlu'
Bydd Ifor ap Glyn, Alys Conran, Sian Northey, Eloise Williams, Siwan Rosser a Catherine Fisher ymysg y cyfranwyr eraill o Gymru.
Dywedodd Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei bod hi'n "ffantastig" fod llenyddiaeth gorau Cymru'n cael llwyfan yn yr ŵyl.
"Mae hi'n glir fod gan Gymru ddigonedd i'w ddathlu, i'w rannu a'i hybu yn y ddwy iaith," meddai.
Ychwanegodd y byddai'n cefnogi gweld presenoldeb Cymru mewn gwyliau tebyg yn y dyfodol hefyd.
Mae saith sefydliad llenyddol o Gymru'n cydweithio er mwyn arddangos llenyddiaeth Cymru yn ystod yr ŵyl, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.