Pro14: Scarlets 26-8 Glasgow

Scarlets Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency

Cafodd y Sgarlets fuddugoliaeth arall bwysig yn erbyn un o dimau cryfaf y Pro 14, Glasgow.

Fe lwyddon nhw i sgorio tri chais yn erbyn un efo'r sgôr terfynnol yn 26-8.

Ar yr hanner 8-0 oedd hi gyda Rhys Patchell yn cael cais a Leigh Halfpenny gôl gosb.

Ond ar ôl yr egwyl sgoriodd Gareth Davies gais unigol gwych o 60 metr ar ôl rhyng-gipiad.

Funud cyn y diwedd cafodd Patchell ei ail gais wedi gwaith ardderchog James Davies.

Pynciau Cysylltiedig