Heddlu'n arestio tri arall wedi llofruddiaeth Abertawe

John Jack Williams Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Fe welwyd John 'Jack' Williams ar gamera cylch cyfyng yn y cyfnod cyn ei farwolaeth

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth ddyn 67 oed yn Abertawe wedi arestio tri pherson arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff John 'Jack' Williams yn ei gartref yn Ffordd Pentre-chwyth yn y ddinas tua 12:30 dydd Sadwrn 31 Mawrth.

Cafodd dau ddyn, 45 a 39 oed, a menyw 37 oed, eu harestio nos Fercher a'u cadw yng ngorsaf heddlu dinas Abertawe.

Mae'r fenyw 31 oed, gafodd ei harestio ar 3 Ebrill ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn parhau i gael ei holi.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi apelio unwaith eto am dystion gan unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Pentre-Chwyth rhwng 23:30 dydd Iau 29 Mawrth, a 00:30 y bore canlynol i gysylltu â nhw.

Image caption Swyddogion fforensig yn ymchwilio'r safle ddydd Sul

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Richard Jones : "Tra bod y tri arestiad yn ddatblygiad arwyddocaol, rydym yn parhau i gynnal ymchwiliadau yn ardal Abertawe er mwyn dod o hyd i'r rhai oedd yn gyfrifol am farwolaeth Mr Williams, pensiynwr a gafodd ei lofruddio yn ei gartref ei hun."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu'n ddienw ar Taclo'r Talau ar 0800 555111, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 1800111652.

Straeon perthnasol