Slyri yn cau traeth poblogaidd yng Ngheredigion

Traeth Dolau Image copyright Steve Fareham/Geograph
Image caption Mae arwyddion yn rhybuddio pobl i gadw draw o Draeth Dolau yng Nghei Newydd

Mae traeth poblogaidd yng Ngheredigion ar gau i'r cyhoedd ar ôl i slyri fferm lygru nant sy'n llifo i'r traeth.

Fe wnaeth swyddogion amgylcheddol o Gyngor Sir Ceredigion y penderfyniad i gau Traeth Dolau yng Nghei Newydd am resymau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mae arwyddion yn rhybuddio'r cyhoedd i gadw draw nes bydd gwybodaeth bellach yn cael ei ryddhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Yn dilyn gollyngiad slyri ar Draeth Dolau nos Wener, rydym wedi penderfynu cau'r traeth nes bydd gwybodaeth bellach, am resymau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

"Rydym yn cynghori'r cyhoedd i gadw draw o'r ardal."